Drych yn paratoi i deithio
Mae ein drama newydd gan un o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymru yn mynd ar daith o gwmpas y wlad yr Hydref yma.Yr actorion Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins fydd yn perfformio yn Drych, cynhyrchiad cyntaf Llyr Titus sydd yn seiliedig ar ddau gymeriad sy'n sgwrsio’n ddiwyd am ryfeddodau a chymhlethdodau bywyd.Y ni'n sy'n cyflwyno'r ddrama Gymraeg rymus newydd yma fydd i’w gweld ar lwyfannau theatrau led led Cymru.Yn ôl y cyfarwyddwr Ffion Haf, mae Drych yn gofyn cwestiynau tywyllaf am fodolaeth dyn: "Drwy Drych cawn adlewyrchiad o daith dau sy’n ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth drwy drafod y dwys a’r doniol, y materol a’r ysbrydol."Mae'r criw wedi bod yn brysur ymarfer yn stiwdio Frân Wen ers cychwyn mis Awst:[gallery ids="2005,2006,2007,2008,2009,2010,2011,2012,2013"]Daeth Llyr, 22 oed o Sarn ger Pwllheli, i gyswllt a Chwmni'r Frân Wen drwy gynllun ysgrifennu newydd i bobl ifanc sy'n cael ei redeg yn flynyddol gan y cwmni."Bu Llyr yn gweithio gydag Aled Jones-Williams fel rhan o gynllun Sgript i Lwyfan sy’n adnabod a mentora dramodwyr ifanc. Roedd yr ymateb i ddarlleniad cyhoeddus o waith Llyr yn syfrdanol - wedi’u swyno ac wedi ymgolli yn y stori, gadawodd y gynulleidfa eisiau clywed mwy gan y dramodydd naturiol dawnus yma – roeddent methu credu i ddramodwr ifanc lunio sgript a syniadau mor aeddfed,” meddai Ffion."Mae'n bwysig ein bod yn rhoi llwyfan i'r lleisiau ifanc newydd cyffrous yma oherwydd nhw yw dyfodol theatr."Meddai Llyr, sydd yn fyfyriwr MA ym Mhrifysgol Bangor: "Roedd cael gweithio gyda Aled Jones-Williams yn eithriadol, roedd o’n brofiad buddiol nid yn unig o ran gallu trafod syniadau hefo rhywun profiadol ond hefyd i gael amser ac anogaeth i fynd ati i ’sgwennu."Ychwanegodd Ffion: "Er na bwriad O Sgript i Lwyfan oedd cynnig datblygiad i’r awduron mwyaf addawol gyda’r posibilrwydd o lwyfannu cynhyrchiad gorffenedig yn y pen draw, roedd yr ymateb i waith Llyr mor bwerus roedd yn rhaid i ni lwyfannu ei waith yn syth!”Mae noson agoriadol Drych yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar 15 Medi (7.30pm).Am ragor o fanylion a thocynnau.