Drama newydd Frân Wen
DRYCH YN TEITHIO THEATRAU CYMRU YM MIS MEDI 2015.Wyt ti erioed wedi teimlo ar goll? Fel bod bywyd ar loop? Yn ailadrodd ei hun yn dragywydd? Wyt ti erioed wedi gofyn wrtho ti dy hun pwy wyt ti go iawn?Dyma ddrama Gymraeg rymus am ddau unigolyn sy’n sgwrsio’n ddiwyd am ryfeddodau a chymhlethdodau bywyd a hynny ar ddarn o dir anial yng nghanol nunlle. Maen nhw’n sôn am y petha maen nhw’n eu cario y tu mewn iddyn nhw ac am ddrycha’ a bloda’ a chathod.Mwy o fanylion am y daith i ddilyn yn fuan.