Lliwia Baner
18.10.22

Sblash o liw i Fangor

Cyfieithiad Cymraeg o’r sioe White sydd wedi cyffroi cynulleidfaoedd ar draws y byd.

Fis Rhagfyr eleni, bydd cyfle unigryw i blant bach Gogledd Cymru fwynhau cyfieithiad Cymraeg o’r sioe White sydd wedi cyffroi cynulleidfaoedd ar draws y byd.

Mae Lliwia, sydd wedi ei anelu at blant dosbarth meithrin, derbyn, blwyddyn 1 a 2, yn enghraifft wych o theatr i blant ifanc ar ei orau. Mae’r cynhyrchiad wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Sioe Orau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn yr UK Theatre Awards.

THEATR I BLANT AR EI ORAU

Yn y stori, mae Titrwm a Tatrwm yn cyflwyno plant i fyd prydferth di-liw lle mae lle i bopeth a phopeth yn ei le.

Bywydau syml a threfnus sydd gan y ffrindiau. Mae’n nhw'n byw mewn pabell wen ac yn gofalu am y tai adar o'u cwmpas. Bob dydd, mae'r ffrindiau'n sicrhau fod eu byd prydferth a threfnus yn parhau'n ddisglair.

Ond, tybed beth fydd yn digwydd pan fydd lliw yn ymddangos am y tro cyntaf? Coch ... melyn ... ac yna glas. Sut wnaiff y ffrindiau ddygymod â'r newid byd?

BALCH O RANNU

Mae Frân Wen a Pontio yn falch iawn i gynnig cyfle i blant fwynhau'r cynhyrchiad drwy gyfrwng y Gymraeg a chael blas ar sgript chwareus wedi ei gyfieithu gan Angharad Tomos.

Bydd y cymeriadau yn defnyddio Makaton i gyfathrebu yn ystod y sioe. Dyma iaith arwyddo syml sy’n defnyddion cyfuniad o lais, ystumiau dwylo a symbolau. Yn ogystal, darperir becyn geirfa syml ar gyfer dysgwyr.

Nifer cyfyngedig o berfformiadau sydd ar gael felly cyntaf i’r felin!

Crëwyd White yn wreiddiol gan Andy Manley, ac fe’i gynhyrchwyd gan Catherine Wheels Theatre o’r Alban.

LLIWIA
08/12/22 - 22/12/22
Tocynnau a mwy o fanylion: www.pontio.co.uk