Dod i wybod mwy am Llyr Titus ...
Enw'r Ddrama?1. Drych.Mewn brawddeg, am beth mae’r ddrama?2. Drama am ddau gymeriad ac am y petha mae nhw'n ei gario y tu mewn iddyn nhw ac am ddrycha' a bloda' a chathod.Beth wyt ti wedi gael allan o’r broses?3. Dechreuad drama fwy gobeithio a phrofiad gwerthfawr o weithio ar bob agwedd o 'sgwennu i'r theatr yn hytrach na dim ond eistedd a theipio deialog.Pam sgwennu i’r llwyfan?4. Mi fedrai ddweud pethau a thrafod pynciau ar lwyfan na fuasai'n bosib mewn rhyddiaith, dwi'n gweld 'sgwennu llwyfan yn agosach at rywun rywsut ac yn fwy amrwd yn amal iawn.Hoff ddramodwr/gwaith?5. Iesgob, fedrai'm ateb cwestiwn fel'na. Mae hi'n dibynnu sut mae rhywun yn teimlo. Haws fyddai dweud pwy dwi ddim yn hoff ohonyn nhw.Sut fath o waith hoffet ti ei weld ar y llwyfan yn y dyfodol?6. Dramâu gwerth eu gweld am wn i.Sut brofiad oedd gweithio gydag Aled Jones Williams i ddatblygu’r sgriptiau?7. Roedd gweithio gyda Aled yn brofiad difyr a buddiol iawn, doeddwn i heb fynd ati i ysgrifennu yn y dull a gyflwynwyd ganddo o'r blaen ac mae hi'n gwneud lles newid bob hyn a hyn rhag i rywun fynd yn rhy ddyfn mewn un cwys.Sut fyddi di’n teimlo’n clywed dy waith yn cael ei ddarllen gan actorion am y tro cyntaf?8. Mi fydd o'n ddifyr gweld eu dehongliad nhw o be nes i 'sgwennu.