Pay Dd6
15.05.14

Dod i wybod mwy am Llio Mai ...

SGRIPT1. Enw eich drama?Dyletswydd 2. Mewn brawddeg, am be mae'r drama?Dynes yn ceisio delio efo’i theimladau ar ôl helpu ei gŵr i ladd ei hun. 3. Beth ydach chi wedi gael allan o'r broses?Cyfle gwych i gael mynd ati i weithio ar ddarn o waith creadigol, cael adborth ar y gwaith hwnnw a chael y cyfle i weithio gyda chyfarwyddwraig. Yn ogystal, rydw i wedi dysgu sawl peth defnyddiol am sut i fynd ati i ysgrifennu drama/monolog. 4. Pam sgwennu i'r llwyfan?Rydw i wedi mwynhau gwylio dramâu erioed yn ogystal â mwynhau ysgrifennu creadigol. Mae ysgrifennu sgript ar gyfer y llwyfan yn rhoi cyfle i fy ngwaith i gael dod yn fyw a dwi’n hoffi’r ffaith bod cyfle i gydweithio efo cymaint o bobl eraill, a bod sawl person yn dylanwadu ar y perfformiad terfynol. 5. Hoff ddramodwr/gwaith?‘Y Tŵr’ gan Gwenlyn Parry. 6. Sut fath o waith maen nhw eisiau ei weld ar y llwyfan yn y dyfodol?Dwi wedi bod yn gwylio sawl drama’n ddiweddar efo criw Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor, a’r ddrama ddiwethaf i ni ei gwylio oedd ‘Dros y Top’. Roeddwn i’n hoffi’r ffaith ei bod hi’n ddrama addysgiadol ond yn llawn hiwmor. Dwi hefyd yn hoff o ddramâu sy’n gallu gwneud i mi chwerthin un funud, a chrio y funud nesaf. Roedd ‘Pridd’ yn un o’r dramâu rheini. Byddwn yn hoffi gweld mwy o ddramâu sy’n cynnwys yr elfennau hynny. 7. Sut brofiad oedd gweithio gydag Aled Jones Williams i ddatblygu'r sgriptiau?Bu’n brofiad buddiol tu hwnt. Roedd hi’n braf cael adborth ar y gwaith yn syth ar ôl i mi ei ysgrifennu, yn ogystal â gallu rhannu syniadau a chael dysgu mwy am sut i fynd ati i lunio monolog dda. 8. Sut fyddi di'n teimlo'n clywed dy waith yn cael ei ddarllen gan actorion am y tro cyntaf?Yndw, dwi’n edrych ymlaen yn arw. Rydw i wir wedi mwynhau yr holl gamau sydd wedi arwain at y darlleniad (y broses o hel syniadau, ysgrifennu, golygu ac ymarfer), ac felly bydd clywed y sgript orffenedig yn cael ei darllen gan actores broffesiynol yn ddiweddglo gwych i’r profiad.