Pay Dd6
13.05.14

Dod i wybod mwy am Gareth Jones ...

  1. SGRIPTEnw’r ddrama
Darnau
  1. Mewn brawddeg am beth mae’r ddrama?
Drama am hunaniaeth ac unigoliaeth: rhan unigolyn mewn perthynas, a sut mae rhywun yn ymdopi gyda nhw eu hunain fel unigolyn eto, ar ôl i’r berthynas honno ddarfod.
  1. Beth ydych chi wedi’i gael o’r broses?
Mae’r cynllun wedi bod yn un hynod fuddiol. Mae wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgwennu dan adain brofiadol a thrwy hynny ennyn hyder yn fy syniadau. Yn ogystal mae wedi bod yn broses addysgiadol wrth i mi brofi’r daith mae drama’n ei chymryd o’r syniad cychwynnol, yr amryw ddrafft o’r sgript, i’r sgyrsiau a sylwadau gan gyfarwyddwyr ac actorion, cyn ac yn ystod y broses ymarfer.
  1. Pam sgwennu i’r llwyfan?
Rydw i wrth fy modd efo’r llwyfan fel cyfrwng. Mae rhyw wefr unigryw i’w chael o wylio perfformiad ac mae’r fath ryddid mae’r llwyfan fel cyfrwng yn ei gynnig yn sicr yn ychwanegu at yr apêl.
  1. Hoff ddramodydd/ddarn o waith?
Dyna gwestiwn! Mae’n debyg mai’r dramodydd sydd wedi dylanwadu’r mwyaf arna’ i ydi Samuel Beckett. Gwelais gynhyrchiad o Diweddgan ychydig flynyddoedd yn ôl a chael fy nghyfareddu gan gynnwys a dyfeisgarwch y ddrama. Ar ôl hynny mi benderfynais roi cynnig ar sgwennu i’r llwyfan. Mae gwaith Aled Jones Williams hefyd yn ysbrydoliaeth, yn ogystal â gwaith Brian Friel.
  1. Sut fath o waith hoffech chi weld ar y llwyfan yn y dyfodol?
Ella gwaith sy’n ymateb mewn ffyrdd gwreiddiol i faterion a digwyddiadau cyfoes.
  1. Sut brofiad oedd gweithio efo Aled Jones Williams i ddatblygu’r sgript?
Roedd cael cefnogaeth, cyfarwyddyd ac adborth gan un o brif ddramodwyr Cymru yn brofiad gwerthfawr ac addysgiadol tu hwnt. Roedd ei sylwadau bob amser yn rhai adeiladol ac yn gwneud i mi ennyn hyder yn yr hyn roeddwn i’n ei sgwennu. Yn sicr, roedd o’n brofiad cofiadwy.
  1. Ydych chi’n edrych ymlaen at glywed eich gwaith yn cael ei ddarllen gan actorion am y tro cyntaf?
Yndw a nac ydw. Rydw i’n edrych ymlaen at glywed y sgript ar goedd ond rydw i’n nerfus ynglŷn ag ymateb y gynulleidfa. Wedi dweud hynny, mi fydd o’n brofiad arbennig a buddiol i gael ymateb er mwyn parhau i ddatblygu’r gwaith ymhellach.