Enw’r ddrama1. Yr Âst ar 'i fraich
Mewn brawddeg, am be mae'r ddrama?2. Myfyrdodau tair merch mewn caffi.
Beth ydach chi wedi gael allan o'r broses?3. Yn ystod y broses dwi wedi dod yn fwy hyderus yn ysgrifennu ac wedi dysgu technegau i ysgrifennu monolgau a deialogau sydd tu allan i fy 'comfort zone'.
Pam sgwennu i'r llwyfan?4. Dwi wedi gwneud rhywfaint o actio ac yn awyddus i ddysgu mwy am y broses o ysgrifennu. Dwi hefyd yn hoff iawn o fynd i'r theatr ac yn mwynhau gwaith Aled Jones Williams, felly roedd hi'n brofiad gwych cael gweithio a dysgu ganddo.
Hoff ddramodwr/gwaith?5. Dennis Kelly, Love and Money
Sut fath o waith wyt ti eisiau ei weld ar y llwyfan yn y dyfodol?6. Yn y dyfydol, fyswn i'n hoffi gweld darnau o theatr sydd yn cyfuno gwahanol fathau o gyfryngau megis ffilm a thafluniadau.
Sut brofiad oedd gweithio gydag Aled Jones Williams i ddatblygu'r sgriptiau?7. Profiad gwych! Dwi wedi mwynhau gwaith Aled ac roedd hi'n brofiad hollol unigryw cael ei adborth o am yr hyn roeddwn wedi ysgrifennu.
Sut brofiad fydd clywed dy waith yn cael ei ddarllen gan actorion am y tro cyntaf?8. Dwi'n edrych ymlaen cael clywed adborth yr actorion yn ogystal â chlywed y gwaith yn cael ei ddarllen. Mae'n ddiddorol dysgu mwy am y broses o greu theatr o'r ysgrifennu i'r llwyfannu, ac yn anhygoel cael actorion proffesiynol yn darllen fy ngwaith i!