Pay Dd6
27.05.16

Diwrnod Hyfforddiant Celfyddydau Ieuenctid

Diwrnod Hyfforddiant Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru Wild WorksDiwrnod Hyfforddiant Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru Dydd Mercher, 15 Mehefin am 10am, Pontio, Bangor £am ddim i aelodau / £35 pawb arallMae Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Sue Hill, Cyfarwyddwr Cyswllt WildWorks yn ymuno â ni ar gyfer digwyddiad Pwyllgor Llywio Gogledd Cymru mis nesaf. Mae Sue yn angerddol am herio yr hyn sy’n cysylltu unigolion gyda’u cynefin, a’r cysylltiadau emosiynol gyda’n tirwedd, natur ac ein gilydd.Mae Sue wedi teithio’r byd yn creu theatr mewn lleoliadau annisgwyl gyda Kneehigh a WildWorks gan gynnwys y Green Line yn Nicosia, Palas Kengsington, Soweto, Nablus, Bhutan a Phort Talbot.Bydd Sue yn arwain gweithdai ar y cyd gyda Gwennan Mair Jones o Frân Wen. Gwennan sy’n arwain adain gyfranogi Frân Wen ac mae ei phrosiectau diweddar gan gynnwys Sbectol a Fi di Fi wedi derbyn canmoliaeth uchel. Roedd Gwennan yn un o’r artistiaid oedd yn cynrychioli Cymru yn y Loc-in yn Jersey dan arweiniad Sue Hill.Cynhelir y gweithdai yn Pontio, Bangor – o fewn yr adeilad a thu allan.Am ragor o fanylion ac i gofrestru am y digwyddiad Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru