Baner Diwrnod Hwyl
17.03.25

Diwrnod Hwyl i'r Teulu yn Nyth

Ymunwch â ni yn Nyth ar gyfer Diwrnod Hwyl i’r Teulu, digwyddiad llawn gweithgareddau cyffrous i bob oed!

Sesiynau theatr, ioga, animeiddio, syrcas, disgo tawel, barddoniaeth, a hyd yn oed gweithdai garddio! I gyd AM DDIM!

Yn digwydd ar ddydd Sadwrn 29 Mawrth rhwng 10am a 6pm, dyma’ch cyfle i brofi’r gorau o’n cymuned greadigol bywiog.

Mae rhywbeth at ddant pawb ar y diwrnod! Dewch i gael blas o’r gweithgareddau amrywiol sydd ymlaen - gan gynnwys sesiynau theatr, ioga, animeiddio, syrcas, disgo tawel, barddoniaeth, a hyd yn oed gweithdai garddio!

Mae pob sesiwn yn agored i bawb ac AM DDIM.

Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn creadigrwydd, hwyl ac ysbryd cymunedol. Welwn ni chi yno!

UCHAFBWYNTIAU

Hwyl a Sbri y Theatr gydag Elis ac Erin

Camwch mewn i fyd theatr byw gyda gweithdai creadigol sy'n dathlu dawn ac angerdd cymuned Frân Wen. 10am, 11am & 1pm

Sesiynau Ioga gyda Wendy Ostler

Dewch i ymlacio gyda sesiynau ioga arbennig sy’n addas ar gyfer pob lefel. Dihangfa perffaith yng nghanol cyffro'r dydd. 10am, 10.45am, 11.30am

Animeiddio gyda Ffion Pritchard

Cylfe i ryddhau eich creadigrwydd mewn gweithdy Animeiddio - dewch i ddysgu sut i ddod â chymeriadau'n fyw trwy dechnegau animeiddio hwyliog ac ymarferol! 10am-1pm

Sgiliau Syrcas gyda Circo Arts

Wedi breuddwydio am redeg i ffwrdd efo'r syrcas? Dewch i gael blas o jyglo, acrobateg, a sgiliau syrcas eraill mewn gweithdy ymarferol sy'n addas i'r teulu oll. 1pm tan 4pm

Gweithdy Drymio gyda Colin Daimond

Darganfyddwch eich rhythm mewn gweithdy drymio egnïol. Perffaith ar gyfer dechreuwyr a’r profiadol! 12.30pm, 2pm a 3pm

Cornel Cerddi gydag Anni Llŷn

Ymunwch â chyn Fardd Plant Cymru Anni Llyn am weithdai barddoni. Sesiynau creadigol a hamddenol i brofi pŵer geiriau. 10.30am-3.30pm

Gweithdai Garddio a Chrefftio Blodau gyda Naomi Saunders a Herbariwm

Cyfle i gael eich dwylo yn fudur yn ein sesiynau garddio yn y Tipi gyda’r influencer garddio Naomi Saunders ac Anna o Herbariwm sy’n artistiaid blodau sych. Tips a thriciau ar gyfer tyfu eich planhigion eich hun - a cyfle i fynd ag ychydig o fyd natur adref efo chi! 10am-5pm

Disgo Tawel i'r Teulu gyda DJ Efan Electro

Dewch i ddawnsio yn ein disgo tawel i’r teulu oll efo sesiwn dawns yn arwain gan Rebecca Wilson, ac Efan Electro ar y decs. 4pm-6pm.