Pay Dd6
16.10.13

Dim Diolch a Carwyn

By George!Mae cynhyrchiad nesaf Cwmni’r Frân Wen (cychwyn Hyd 21) yn dilyn bywyd George Price. George pwy, meddech chi?George Price oedd y gwyddonydd Americanaidd hunanddysgedig a oedd y cyntaf i fynegi anhunanoldeb mathemategol. Roedd Price hefyd wedyn gweithio ar gyfoethogi wraniwm, helpu i ddatblygu therapi ymbelydredd ar gyfer canser a dyfeisio cynllunio drwy gymorth cyfrifiadur gydag IBM.Carwyn Jones1Carwyn Jones, actor a aned yn Llanfairpwll, sy’n chwarae rhan y gwyddonydd ecsentrig.“Fel y rhan fwyaf o bobl, doeddwn i byth wedi clywed am George Price, ond pan ddarllenais y sgript cefais fy rhyfeddu. Roedd blynyddoedd o flaen ei oes ac yn athrylith go iawn, ond ni chafodd y gydnabyddiaeth yr oedd yn ei haeddu. Cofiwch fod hwn yn ddyn a ddylanwadodd ar y bom atom, therapi ymbelydredd canser a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur!”meddai’r actor 33 oed.Symudodd Carwyn i Lundain i astudio yng Ngholeg Guildhall yn 2002. Arhosodd yno am ddeng mlynedd cyn symud i fyw i Benarth, Bro Morgannwg.Hon yw’r drydedd tro i Carwyn weithio gyda ni gan iddo hefyd ymddangos yn Bitsh! a Johnny Delaney. “Mae’n braf cael dod adra i’r Gogledd i weithio,” meddai.Yn ogystal a gwaith theatr gyda’r Theatr Gen, Bara Caws a Na N’og, mae Carwyn wedi gweithio ar raglenni teledu Rownd a Rownd, Blodau, Sombreros a Judge John Deed.Ychwanegodd: “Wrth i ni archwilio stori’r dyn, ei waith a’r cymhelliad wrth wraidd caredigrwydd, cawn ddarlun eglur o’r bersonoliaeth gymhleth ac amlhaenog hon. Mae portreadu cymeriad fel George yn freuddwyd i mi fel actor.”

www.wegottickets.com/franwen

http://www.youtube.com/watch?v=Jb7F2jyG49Y&feature=c4-overview&list=UUFnD0rm7vBP0-NWTnEjuHxQ