CCFW2
24.10.23

Cymuned creadigol Bangor

Ymunwch â’n grŵp cymunedol creadigol newydd ym Mangor

'Da ni'n sefydlu grŵp cymunedol creadigol newydd sbon ym Mangor.

Bydd y grŵp, sy'n agored i bobl dros 18 oed, yn cyfarfod yn rheolaidd i rannu, archwilio a chreu yn ein cartref newydd yng nghanol y ddinas.

Gyda’n gilydd gallwn greu gwaith rhyfeddol mewn llefydd annisgwyl yn y ddinas a’r cyffiniau.

BE’ FYDDAI’N NEUD?

Dan arweiniad artistiaid proffesiynol, mi fyddi di’n archwilio straeon, creu sioeau, datblygu syniadau newydd a meithrin sgiliau creu theatr.

MWY NA JEST PERFFORMIO

Mae creu theatr yn gymaint mwy nag actorion ar lwyfan. Ella fod gen ti ddiddordeb mewn:

  • Goleuo
  • Sain
  • Dylunio
  • 'Sgwennu
  • Cyfansoddi

‘Da ni bendant eisiau clywed gen ti!

Am ddim. Dim ond troi fyny sydd angen.

Croeso cynnes i bawb, 18+

Ymunwch â ni ar y dyddiadau yma:

NOS FERCHER
08 + 15 + 22 + 29 TACHWEDD
6:30pm - 8:30pm
NYTH, FFORDD GARTH, BANGOR LL57 2RW

Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd plîs cysylltwch ag Elis Pari cyn y sesiwn.