Pay Dd6
05.05.17

Cyhoeddi taith Mwgsi

Mwgsi . Mirain Fflur
O’dd o’n mynd i fod yn epic. O’n i’n ferch 18 oed cyffredin. Stres Lefel A tu cefn i mi. O’n i’n barod am haf llawn rosé cyn cychwyn gradd nyrsio.Yna bang!Dim ‘duty free, pis-yp a lliw haul i fi.Blwyddyn mwya shit eto.
Mae Frân Wen yn falch o gyhoeddi taith Mwgsi - drama newydd deithiol a gyfarwyddwyd gan Iola Ynyr, fydd yn teithio Cymru yn nhymor yr Hydref 2017.Yn seiliedig ar stori wir, dyma ddrama creulon o onest, llawn hiwmor tywyll gan Manon Steffan Ros am yr enwogrwydd a’r unigrwydd o fod yn berson ifanc sy’n byw gyda chancr.Yn hytrach na haf llawn gwin, gwyliau a giamocs mae Mwgsi'n wynebu chemo, salwch a’r unigedd rhyfedd o fod yn ffigwr trasig.Mae'r cynhyrchiad wedi ei selio ar flog didwyll Megan Davies (www.mwgsi.com), oedd yn cofnodi ei phrofiad o ddygymod â thriniaeth cancr yn ddeunaw oed.Mae’r tensiwn rhwng Mwgsi ei ffrindiau, ei theulu a hi ei hun yn cynnig darn o theatr llawn hiwmor tywyll sy’n mynnu ein bod ni fel cynulleidfa, o bob oed, yn dod wyneb yn wyneb hefo’n dyfodol ansicr ni’n hunain.MANYLION Y DAITH18/10/17 . Neuadd Dwyfor, Pwllheli . 1pm + 7.30pm 20/10/17 . Theatr Twm O’r Nant, Dinbych . Amseroedd i’w cadarnhau 23/10/17 . Theatr Colwyn, Bae Colwyn . 7.30pm 25/10/17 . Neuadd Buddug, Y Bala . 7.30pm 26/10/17 . Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog . 7.30pm 03/11/17 . Chapter, Caerdydd . 7.30pm 04/11/17 . Chapter, Caerdydd . 7.30pm 08/11/17 . Pontio, Bangor . 1.30pm 09/11/17 . Ysgol Gyfun Llangefni . 7.30pm 14/11/17 . Neuadd Ogwen, Bethesda . 7.30pm 16/11/17 . Ysgol Uwchradd Bodedern . 7.30pm 17/11/17 . Galeri, Caernarfon . 6pm 18/11/17 . Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug . 7.45pm 20/11/17 . Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron . 7.30pm 21/11/17 . Neuadd San Pedr, Caerfyrddin . 7.30pm 22/11/17 . Ffwrnes, Llanelli . 7.30pm 23/11/17 . Canolfan Gartholwg, Pontypridd . 7.30pmhttps://youtu.be/zH6aWPSgufc