Pay Dd6
27.08.19

Cyhoeddi taith Llyfr Glas Nebo

Taith Llyfr Glas Nebo

Rydym yn falch o gyhoeddi manylion taith Llyfr Glas Nebo, addasiad llwyfan o'r nofel ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros.

Mewn partneriaeth â Galeri, a chyda cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd y cynhyrchiad yn teithio theatrau ar draws Cymru yng Ngwanwyn 2020.Mae Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol yn y 12 mis ers ei chyhoeddi. Ychydig dros wythnos ar ôl i'r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi, ac aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ym mis Mehefin eleni.Mae'r gyfrol yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt."Cefais fy nghyfareddu o'r funud cyntaf o ddarllen y nofel ac roeddwn yn ffyddiog o’r potensial gwych o’i haddasu i’r llwyfan a chreu profiad gwirioneddol theatrig i’r gynulleidfa," meddai Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen."Mae’n stori hynod o ddramatig ac emosiynol ac yn ymdrin â chwestiynau mawr y byd heddiw.”Manon Steffan Ros ei hun sy'n gyfrifol am addasu i'r llwyfan, gydag Elgan Rhys yn cyfarwyddo. Elin Steele yw cynllunydd y set a’r gwisgoedd a Robin Edwards (R.Seiliog) yw'r cyfansoddwr."Wrth gwrs, nid oedd amheuaeth mai Manon fyddai’n addasu’r gwaith. Mae wedi byw gyda’r cymeriadau ers amser maith, yn eu hadnabod yn well na neb ac yn gwybod pa mor bell i’w gwthio" ychwanegodd Nia."Rydym wedi gweithio droeon gyda Manon dros y blynyddoedd - dechreuodd ei gyrfa broffesiynol gyda Frân Wen fel actores bron i ugain mlynedd yn ôl ac wedyn yn fwy diweddar fel dramodydd - felly rydym yn gwybod pa mor agored yw hi i arbrofi a manteisio i’r eithaf ar yr hyn y gall ‘theatr’ fel cyfrwng ei gynnig i stori dda."Cast actorion Llyfr Glas Nebo*Cast llawn Llyfr GLas Nebo: Tara Bethan, Eben James, Llŷr Edwards, Leah Gaffey, Cêt Haf.*Elgan Rhys sydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad: "Wrth addasu’r stori afaelgar i lwyfan, y bwriad yw rhoi llwyfan i gyfoeth a delweddaeth, cymeriadu ac ieithwedd Manon."Bydd y cynhyrchiad yn gorfodi’r gynulleidfa i gwestiynu sut maent yn cynnal a charu ac yn ymdrin â’r byd o’u cwmpas. Mae Manon wedi llwyddo i ychwanegu dimensiwn newydd i'r stori lwyfan sydd yn ein cyffroi ni gyd.""Mae’n braf iawn i wybod y bydd teuluoedd cyfan yn gallu profi gwefr y ddrama efo’i gilydd ac y bydd yn esgor ar mwy o drafod y pwnc bwysig a chyfoes hwn. Edrychwn ymlaen hefyd i weld ysgolion yn llenwi’r theatr gan fod y nofel wedi ei gynnwys fel un o lyfrau gosod cwricwlwm Cymraeg TGAU."Meddai Nici Beech, Cyfarwyddwr Artistig Galeri: "Rydym wrth ein bodd yn cydweithio eto efo Fran Wen, ac wedi cyffroi o’r cychwyn gyda’r posibilrwydd o gyflwyno addasiad o nofel rymus Manon i’r gynulleidfa."Mae hi’n awdur a dramodydd hynod o ddawnus a phoblogaidd ac mae’r gwaith mae hi eisoes wedi ei greu efo Frân Wen wedi profi ei gallu i greu theatr sy’n apelio at ystod eang o oedrannau."Mae’r daith yn cychwyn yn Galeri, Caernarfon ar 31 Ionawr ac yn ymweld â Phwllheli, Caerdydd, Aberhonddu, Aberystwyth, Rhosllannerchrugog, Gartholwg, Caerfyrddin, Pontardawe, Dyffryn Aeron – cyn gorffen yn Pontio, Bangor ar y 5ed a 6ed o Fawrth.Mwy o fanylion a sut i archebu tocynnau.