Cyhoeddi taith Dilyn Fi
Yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd y cynhyrchiad yng Ngŵyl Fringe Caeredin 2016, mae Frân Wen yn falch o gyhoeddi taith genedlaethol Dilyn Fi.Bydd y cynhyrchiad yn teithio i 20 o leoliadau ar draws Cymru yn ystod Hydref a Thachwedd 2016.Mae'r sioe i blant dan 7 oed, yn dilyn anturiaethau Nansi wrth iddi ddysgu ymdopi â brawd bach newydd.Bydd Cêt Haf ac Elgan Rhys yn ail-ymuno â'r cwmni i chwarae rhan Nansi a'i ffrind gorau, Cai.Sarah Argent yw awdur y sgript sy'n seiliedig ar enedigaeth ail blentyn ei chwaer."Yn dilyn genedigaeth brawd bach newydd fy nith, mi fyddai hi'n treulio drwy'r dydd yn actio fel eliffant - bwyta, cysgu, chwarae - hyn oedd ei ffordd hi o ddelio â'r sefyllfa ac roedd hyn yn hynod o ddiddorol i mi," meddai'r dramodydd o Gaerdydd.Mae'r daith yn cychwyn yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug ar y 20fed o Hydref ac yn ymweld â Phwllheli, Wrecsam, Llangadfan, Llangefni, Llandudno, Caernarfon, Caergybi, Harlech, Y Bala, Drenewydd, Aberystwyth, Caerfyrddin, Pontardawe, Abertawe, Llanelli, Pontypridd, Caerdydd, Merthyr Tudful - cyn gorffen yn Pontio, Bangor ar y 26ain o Dachwedd.Manylion llawn y daith