Cyhoeddi manylion taith genedlaethol
[caption id="attachment_1273" align="aligncenter" width="960"] Bryn Fon a Gwenno Hodgkins - sêr y ddrama Drych[/caption]Drych gan Cwmni’r Frân WenMae Cwmni’r Frân Wen yn falch o gyhoeddi taith Drych - drama newydd wedi ei chyfarwyddo gan Ffion Haf fydd yn teithio Cymru yn nhymor yr Hydref 2015.Drama Gymraeg rymus yw Drych am ddau unigolyn (Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins) sy’n sgwrsio’n ddiwyd am ryfeddodau a chymlethdodau bywyd a hynny ar ddarn o dir anial yng nghanol nunlle.Drych yw drama gyntaf gan yr awdur disglair Llyr Titus.Roedd Llyr yn rhan o ‘Sgript i Lwyfan’ – cynllun datblygu ‘sgwennwyr ifanc Cwmni’r Frân Wen, dan arweiniad y dramodydd Aled Jones Williams.Meddai Llyr: “Roedd gweithio gyda Aled yn brofiad difyr a buddiol iawn, cyfle unigryw i weithio gyda un o brif ddramodwyr Cymru”Dywed Cyfarwyddwr Cyswllt Cwmni’r Frân Wen a chyfarwyddwr y cynhyrchiad, Ffion Haf: “Roedd yr ymateb i ddarlleniad cyhoeddus o waith Llyr yn Galeri yn syfrdanol - wedi’u swyno ac wedi ymgolli yn y stori, gadawodd y gynulleidfa eisiau clywed mwy gan y dramodydd naturiol dawnus yma – roeddent methu credu i ddramodwr ifanc lunio sgript a syniadau mor aeddfed.”Un o flaenoriaethau’r cwmni yw annog a meithrin artistiaid creadigol ifanc a thalentog ac mae Llyr yn enghraifft o hyn.”Bwriad ‘Sgript i Lwyfan’ yw cynnig datblygiad i’r awduron mwyaf addawol gyda’r posibilrwydd o lwyfannu cynhyrchiad gorffenedig yn y pen draw. Roedd yr ymateb i waith Llyr mor bwerus roeddem ar dân i roi llwyfan i’w waith mor fuan â phosib.”Bydd Drych yn agor yn Neuadd Dwyfor ym mis Medi 2015, cyn teithio led led Cymru.MANYLION Y DAITHMEDI
15 / Neuadd Dwyfor Pwllheli
16 / Neuadd Dwyfor Pwllheli
17 / Neuadd Ogwen Bethesda
18 / Theatr Colwyn Bae Colwyn
21 / Ysgol Y Moelwyn Blaenau Ffestiniog
22 / Galeri Caernarfon
23 / Neuadd Buddug Y Bala
24 / Ysgol Uwchradd Bodedern
25 / Sherman Cymru Caerdydd
26 / Sherman Cymru Caerdydd
28 / Theatr Mwldan Aberteifi
29 / Y Llwyfan Caerfyrddin
30 / Canolfan Y Celfyddydau AberystwythHYDREF
1 / Theatr Twm o’r Nant Dinbych
3 / Theatr Harlech
6 / Canolfan Catrin Finch Wrecsam
8 / Canolfan Gartholwg Pontypridd
9 / Canolfan Celfyddydau Pontardawe
Cwmni’r Frân Wen yn cyflwyno
Drych gan Llyr Titus
Cyfarwyddo: Ffion Haf
Actorion: Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins
Cynllunydd Set: Gwyn Eiddior
Cynllunydd Gwisgoedd: Angharad Gwyn
Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins
Cyfansoddwr: Osian Gwynedd
*Download English version of the above