Pay Dd6
07.06.19

Cyhoeddi galwad agored i Llyfr Glas Nebo

Rydym yn cynnal clyweliadau yng Ngogledd a De Cymru.

Casting call Llyfr Glas NeboMae'n bleser gennym gyhoeddi galwad agored am berfformwyr ar gyfer ein taith genedlaethol o Llyfr Glas Nebo.Bydd y sioe, sy'n addasiad o nofel ôl-apocalyptaidd Manon Steffan Ros, yn teithio yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2020.Rydym yn cynnal clyweliadau mewn dau leoliad gwahanol ym mis Gorffennaf.Mae'r tîm artistig yn chwilio am berfformwyr ar gyfer rôl Sion - bachgen yn ei arddegau sy'n byw gyda'i fam a'i chwaer fach - ac aelodau o'r cast ensemble a fydd yn chwarae sawl rôl. Rydym yn chwilio am siaradwyr Cymraeg o bob cefndir diwylliannol ar gyfer pob rôl.Mae Llyfr Glas Nebo yn cael ei gyfarwyddo gan Elgan Rhys, gyda Elin Steele yn cynllunio'r set, coreograffi gan Matt Gough a cherddoriaeth gan Robin Edwards. Mae'r cynhyrchiad mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon ac fe'i gefnogir gan gyllid loteri drwy Cyngor Celfyddydau Cymru.Bydd y rownd gyntaf o glyweliadau ym Mhorthaethwy ar 2 Gorffennaf a Chaerdydd ar 3 Gorffennaf, gyda rowndiau pellach ar 5 a 6 Gorffennaf.
MANYLION CASTIO1. SION- Yn fab i Rowenna, a’n byw gyda hi a Dwynwen, ei chwaer fach. - O gefndir dosbarth gweithiol sy'n byw mewn byd ôl-apocolyptaidd yn Nebo, Gogledd Cymru. - Yn ei arddegau-canol. - Yn fachgen sydd wedi tyfu fynu yn rhy sydyn. - Yn fachgen sy'n chwilfrydig o’r byd o’i gwmpas. - Yn gryf ac ymarferol iawn. Yn bwrw ‘mlaen a chadw popeth mewn lle yn ei fywyd ôl-apocolyptaidd.Chwilio am rhwyun sy'n:- Gallu chwarae rôl bachgen 12 oed*. - Yn gyfforddus i ddyfeisio a byrfyfyrio. - Yn gyfforddus gyda sgiliau symud. - Yn brofiadol gyda gwaith testun. - Gyda phrofiad o berfformio o flaen cynulleidfa. - Siaradwr Cymraeg, acen ogleddol.*Oherwydd rhesymau ymarferoldeb a rheolau mewn perthynas â chyflogi plant mae’r cyfle yma yn agored i actorion ifanc dros 16 oed yn unig.*BRÎFF LLAWN I GYMERIAD SION2. ENSEMBLEChwilio am berfformwyr sydd:- Yn gallu chwarae rhan cymeriadau amrywiol rhwng 20 - 40 oed. - Perfformwyr aml-rôl. - Wedi derbyn hyfforddiant broffesiynol fel actor neu dawnsiwr. - Gyda phrofiadau dyfeisio a byrfyfyrio. - Gyda phrofiadau a sgiliau symud. - Gyda phrofiadau o weithio gyda thestun llafar. - Yn gyfarwydd gyda gwaith pypedu. - Siaradwyr ac / neu dysgwyr Cymraeg.BRÎFF LLAWN I'R CAST ENSEMBLE
DYDDIADAU ALLWEDDOLDatgan diddordeb clyweliad: 24 Mehefin 2019 Clyweliadau: 2, 3, 5 a 6 Gorffennaf 2019 Ymarferion: 9 - 13 Rhagfyr 2019 (Sion yn unig) / 6 - 30 Ionawr 2020 Teithio: 31 Ionawr - 6 Mawrth 2020
MANYLION CASTIOI ddatgan diddordeb neu am ragor o fanylion (gan gynnwys brîff manwl) cysylltwch â Olwen Williams.