Pay Dd6
01.08.19

Cyhoeddi Cyfarwyddwr Artistig newydd

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi Gethin Evans fel ein Cyfarwyddwr Artistig newydd.

Gethin Evans Cyfarwyddwr ArtistigBydd Gethin, sydd ar hyn o bryd yn gyd-Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Pluen Company ac yn gyfarwyddwr llawrydd, yn ymuno â ni yn nhymor yr Hydref eleni.Yn wreiddiol o Ddinbych, hyfforddodd Gethin ym Mhrifysgol De Cymru ac ers hynny mae wedi cyfarwyddo sawl cynhyrchiad llwyddiannus gan gynnwys Woof, Yr Hugan Fach Goch a MAGS. Roedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar y cynhyrchiad Pericles gan y National Theatre yn Llundain (rhan o gynllun cymunedol Public Acts) ac yn gyn-Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Yn ddiweddar mae wedi gweithio gyda Theatr Clwyd, National Theatre of Wales a Chichester Theatre Festival.Am ei benodiad, dywedodd Gethin: "Mae Frân Wen yn un o gwmnïau mwyaf beiddgar a chyffrous Cymru! Rwyf wedi edmygu eu gwaith ers tro - a'u hymrwymiad, ymgysylltiad a pherthnasedd i bobl ifanc. "Mae'n fraint ymuno â thîm Frân Wen ac edrychaf ymlaen i arwain gweledigaeth artistig y cwmni mewn cyfnod mor neilltuol yn ei hanes. Edrychaf ymlaen at ddatblygu perthnasau newydd gyda chymunedau, artistiaid a sefydliadau i greu rhaglen artistig gyfoes, hygyrch ac uchelgeisiol yn yr iaith Gymraeg ar gyfer cynulleidfaoedd hen a newydd." Dywedodd Cadeirydd Frân Wen, Irfon Jones: "Mae Gethin yn gyfarwyddwr ifanc hynod dalentog gyda gweledigaeth, egni ac uchelgais disglair. Yn yr hinsawdd presennol mae gan Frân Wen rôl allweddol yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifanc drwy rym y celfyddydau ac mae’n destun balchder i ni benodi cyfarwyddwr ifanc sy’n llawn addewid i’r rôl allweddol hon.”