Baner Castio
28.03.24

Tîm llawn

Mae'r cast llawn Deian a Loli wedi’i gyhoeddi

Yr actorion Mali Tudno Jones a Rhian Blythe fydd yn chwarae rhieni'r efeilliaid (a chymeriadau eraill) gyda Rhys Parry Jones yn chwarae rhan Capten, y ffrind dychmygol direidus yn Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf.

Cast Deian a Loli

Mae Mali yn adnabyddus am ei rôl fel y patholegydd Rachel West yng nghyfres dditectif Craith/Hidden (BBC/S4C) ag yn fwy diweddar fel Linda yn y gyfres, Bariau. Mae Mali wedi’i henwebu ar gyfer Actores Orau BAFTA Cymru am ei phortread o Nia yn 35 Diwrnod (S4C), rôl yr aeth ymlaen i’w hailchwarae ar gyfer 15 Days (Channel 5).

Mae Rhian yn adnabyddus am ei pherfformiadau mewn rhaglenni teledu fel Craith/Hidden (S4C/BBC), Y Golau/The Light in the Hall (S4C/C4), y ffilm nodwedd Morfydd (S4C) a’r cynhyrchiad theatr Draenen Ddu (Bara Caws). Cipiodd Rhian wobr BAFTA Cymru yn 2014 am Actores Orau am ei gwaith ar y gyfres deledu Gwaith/Cartref a’r wobr Actores Orau yng ngwobrau The Stage yng Ngŵyl Caeredin yn 2008 am ei pherfformiad yn y cynhyrchiad Deep Cut.

Mae Rhys yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan a theledu. Treuliodd gyfnod yn Pobol y Cwm, yn ogystal ag ymddangos yn 35 Diwrnod (S4C), Y Pris (S4C),Stella (Sky1), Outlander (Starz), House of the Dragon (HBO) ac A Very English Scandal (Prime) gyda Hugh Grant.

Mae Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf yn gynhyrchiad newydd sbon a ddatblygwyd i’r llwyfan gan dim craidd y gyfres deledu wreiddiol sef Manon Wyn Jones fel Dramodydd ac Angharad Elen fel Cynhyrchydd Creadigol.

Caiff ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Frân Wen, Gethin Evans, gyda’r tim creadigol yn cynnwys y dylunydd set a gwisgoedd Cai Dyfan; y cerddor Bethan Mai o’r band Rogue Jones; y cynllunydd sain, Sam Jones; y dylunydd goleuo, Ceri James a’r cyfarwyddwr symud, Rebecca Wilson.

Cyhoeddwyd enwau’r actorion ifainc eisoes, sef y ddau bâr fydd yn chwarae rhan yr efeilliaid direidus, sef Jack Thomas-Humphreys o Danygrisiau, Ifan Miners o Benisarwaun, Gweni Roberts o Lithfaen a Casi Williams o Frynteg.

Bydd Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf yn agor yn Pontio, Bangor (30 Ebrill - 04 Mai 2024), cyn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (09 - 11 Mai 2024), Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl (14 - 15 Mai 2024), Y Lyric, Caerfyrddin (21 - 24 Mai 2024) a’r Theatr y Sherman, Caerdydd (05 - 08 Mehefin 2024).

Deian a Loli:
Y Ribidirew Olaf
Mwy