Pay Dd6
03.12.14

Cyfweliad gyda Owain Gethin Davies - Cyfarwyddwr Cerddorol SBRI 2!

Poster SBRI 2Sut sioe ydi Sbri2?Sioe egniol yn llawn caneuon adnabyddus, rhai o'r wythdegau a rhai sydd yn gyfoes iawn gan fandiau megis Candelas! Mae yn gast mawr iawn a hynod o dalentog gyda unawdau, deuawdau, caneuon i ensemblau a sawl cân dramatig i'r corws. A gan ei bod hi yn dymor y Nadolig ambell garol adnabyddus - rhain i gyd gan gyfansoddwyr o Gyrmu!Be fedri di ddweud wrthym ni am gerddoriaeth Sbri2?Mae'r caneuon i gyd wedi cael eu dethol gan fod ganddynt gyswllt i deimladau cymeriadau yn ystod y sioe, neu yn cyd fynd gyda neges benodol wrth i'r sioe ddatblygu. Rydym wedi cadw'r geiriau gwreiddiol ym mhob cân ond maent mewn arddull newydd, yn aml iawn cân sydd mewn arddull roc wedi ei haddasu i fod yn faled! Ac ambell faled wedi ei gwneud yn fwy egniol! Felly cyferbyniad llwyr ac ambell i sioc i'r gynulleidfa - ddim bob tro y bydd y gân yn hollol amlwg tan y byddent yn clywed y gytgan neu yn dod ar draws geiriau cyfarwydd. Ond rhaid cadw ambell glasur yn debyg i'r gwreiddiol megis Dewch at ei gilydd - Edward H a Alaw Mair - Delwyn Sion.Fedri di son fymryn am y band? Mae'r band mor dalentog - braf cael rhai o gerddorion gorau'r ardal yn y band! Mae pawb sydd yn y band wedi profi llwyddiant mewn ensemblau neu fel unawdwyr ar lefel cenedlaethol. Mae hi di bod yn fraint cydweithio hefo nhw! Mae yna ddeg yn y band ac wrth gwrs fi ar y piano yn eu harwain! Mae y trefniannau band i gyd yn newydd ar gyfer y sioe ac wedi cael ei gwneud yn benodol ar gyfer y cerddorion ifanc yma! Bydd y band yn siwr o'ch diddanu!Ym mha ffordd mae gweithio ar SBRI2 wedi bod yn wahanol i SBRI?Y prif wahaniaeth ydi amserlen dynach. Cafwyd cyfnod o 6 mis yn paratoi ar gyfer SBRI ac hanner yr amser yr ydym wedi bod wrthi gyda'r criw yma. Ond, maen nhw mor frwdfrydig a thalentog ac wedi rhoi o'i gorau ar bob achlysur! Mae hi'n fraint cael gweithio efo pobl ifanc yr ardal sydd yn ymddiddori yn y maes!Unrhyw sylwadau difyr eraill ...Mae un o'r caneuon yn gyfansoddiad gwreiddiol gennyf i! Yn ôl yn 2004 (ddegawd yn ôl) cefais lwyddiant yng nghystadleuaeth Carol Nadolig S4C gyda'r garol 'Er cof am eni'r Iesu' - geiriau gan y diweddar Merfyn Hughes. Cafodd y garol ei pherfformio a'i recordio gan Elin Fflur a'r band yn Llangollen. Ers hyn mae'r garol wedi bod ar y radio a'r teledu yn flynyddol adeg y Nadolig. Mae hi wedi cael ei chynnwys ar CD 101 o garolau gan Cwmni Sain. Ond am y tro cyntaf, dwi yn cael bod yn rhan o berfformiad o fy ngharol, rhywbeth dwi heb wneud ers ei chyfansoddi ddegawd yn ôl.