Pecyn Swydd Cynhyrchu2
09.10.26

Cyfle Swydd: Cydlynydd Cynhyrchu a Thechnegol

Ymuna â thîm Frân Wen a helpwch ni i ddod â’n rhaglen yn fyw.


Rydyn ni’n chwilio am rywun ymarferol, trefnus, dibynadwy a chwilfrydig sydd â rhywfaint o brofiad perthnasol mewn theatr, technegol, cynhyrchu neu berfformiadau byw ac sy’n barod am y cam nesaf.

Does dim rhaid i chi fod yn Rheolwr Cynhyrchu profiadol nac yn arbenigwr ym mhob elfen o’r swydd.

Efallai eich bod yn dechnegydd theatr sydd eisiau datblygu mwy o brofiad cynhyrchu. Efallai eich bod wedi gweithio ym maes rheoli llwyfan neu gynhyrchu ac mae gennych sgiliau technegol da. Neu efallai eich bod wedi gweithio ar draws nifer o’r meysydd hyn heb ddilyn un llwybr penodol.

Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn deall sut mae theatr a pherfformiadau byw yn gweithio, yn mwynhau datrys problemau, yn gallu cynllunio ymlaen llaw ac yn barod i gymryd cyfrifoldeb.

Manylion

Lleoliad: Nyth, Bangor, gyda gwaith mewn lleoliadau eraill yn ôl gofynion y rhaglen
Cytundeb: Llawn amser. Parhaol
Cyflog: £30,000 y flwyddyn
Oriau: 38 awr yr wythnos, gan gynnwys gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau
Dyddiad Cau: 30 Hydref
Dyddiad cyfweliad: 5 Tachwedd
Dyddiad cychwyn: Mor fuan â phosib

Pecyn Swydd Cydlynydd Cynhyrchu

pdf, 5.531 MB

Nodir fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl, a gallwn gynnig cymorth i helpu siaradwyr Cymraeg newydd i ddatblygu eu hyder a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gyflwyno cais, neu os hoffech gael fformat gwahanol cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy ebostio nia@franwen.com neu ffonio Nia Jones ar 01248 715048.