Cyfle swydd
10.07.26

Cyfle Swydd: Crëwr Cynnwys

Ymuna â Thîm Frân Wen fel Crëwr Cynnwys dros yr Haf!

Wyt ti'n byw ar TikTok, Instagram neu Reels?

Wyt ti'n gweld stori ym mhob eiliad ac yn gwybod sut i greu cynnwys sy'n gwneud i bobl stopio sgrolio?

Os felly, rydan ni eisiau clywed gen ti!

Mae gan Frân Wen haf llawn cyffro o'n blaenau, ac rydyn ni'n chwilio am Grëwr Cynnwys i ddal yr holl hud sy'n digwydd ar lwyfannau, mewn ystafelloedd ymarfer ac yn ein cymunedau.

Beth fyddi di'n ei wneud?

  • Creu fideos byrion creadigol
  • Dal eiliadau tu ôl i'r llenni
  • Cyfweld artistiaid a phobl y gymuned
  • Creu cynnwys ar gyfer TikTok, Instagram a'n sianeli digidol

Mi fyddi di yng nghanol popeth, yn helpu i adrodd straeon Frân Wen mewn ffordd ffresh, difyr a chreadigol.

Pam ymuno hefo ni?

  • Cytundeb haf perffaith i fyfyriwr neu rywun sy'n awyddus i ennill profiad creadigol.
  • O leiaf 25 awr yr wythnos wedi'u gwarantu tan ddiwedd mis Medi.
  • Oriau hyblyg.
  • £13 yr awr.
  • Posibilrwydd o ymestyn y gwaith ar ôl yr haf.

Wyt ti’n rhywun sy’n...?

  • caru creu cynnwys

  • hyderus yn defnyddio ffôn neu gamera i ffilmio

  • yn mwynhau siarad â phobl

  • yn llawn syniadau creadigol

  • yn gallu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg

Barod i ddod â straeon Frân Wen yn fyw?

Anfona neges: nia@franwen.com

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Bydd y Crëwr Cynnwys yn gweithio o swyddfa’r cwmni, Nyth, ym Mangor a lleoliadau amrywiol eraill yn ôl y rhaglen artistig.