Pecyn Swydd Artist Cyswllt
Cyfle Swydd: Artist Cyswllt
Ymuna â thîm Frân Wen i greu, cyfarwyddo ac arbrofi
Rydyn ni’n chwilio am artist brwdfrydig, chwilfrydig a llawn syniadau i ymuno â Frân Wen am flwyddyn o greu, cyfarwyddo ac arbrofi.
Dyma gyfle i ddatblygu dy lais a dy ymarfer artistig.
- Cyfarwyddo dau gynhyrchiad
- Is-gyfarwyddo cynhyrchiad proffesiynol ochr yn ochr â’r cyfarwyddwr Amy Leach, sydd wedi cael ei henwebu am Wobr Olivier ac wedi ennill Gwobr UK Theatre
- Cyd-greu, arbrofi a datblygu syniadau
- Gweithio gydag artistiaid proffesiynol, pobl ifanc a chymunedau
- Bod yn rhan o fywyd creadigol Nyth, Bangor
Does dim rhaid i ti fod wedi gwneud popeth yn barod. Os oes gen ti rywfaint o brofiad, greddf artistig ac awydd i gamu ymlaen rydyn ni eisiau clywed gen ti.
Manylion
Teitl: Artist Cyswllt
Lleoliad: Nyth, Bangor, gyda gwaith mewn lleoliadau eraill yn ôl gofynion y rhaglen
Cytundeb: Tymor penodol o flwyddyn i gychwyn mor fuan â phosib
Iaith: Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hyderus yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Yn atebol i: Cyfarwyddwr Artistig
Cyflog: £30,000
Oriau: 38 awr yr wythnos gan gynnwys oriau anghymdeithasol / penwythnos
Dyddiad cau: 02 Hydref 2026
Cyfweliadau: W/C 05 Hydref 2026
Oherwydd natur y gwaith gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, bydd yr apwyntiad yn amodol ar y gwiriadau diogelu perthnasol a thystlythyrau boddhaol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gyflwyno cais, neu os hoffech gael fformat gwahanol cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy ebostio nia@franwen.com neu ffonio Nia Jones ar 01248 715048.