Cyfle arbennig i 5 sgwennwr ifanc
Mae Cwmni'r Frân Wen yn chwilio am 5 sgwennwr disglair o dan 25 oed i elwa ar fentoriaeth sgriptio gyda Aled Jones Williams yn y flwyddyn newydd. Rydan ni'n gofyn i bobl ifanc sydd â diddordeb yn y cynllun i yrru darn o waith creadigol i post@franwen.com erbyn Rhagfyr 17.
Mae'n gyfle gwych i 5 person ifanc weithio gyda Aled ar ddatblygu gwaith newydd. Fel llynedd, bydd actorion proffesiynol yn darllen gwaith gorffenedig y sgriptwyr ifanc fel rhan o benwythnos INC, GALERI, Mehefin 5. Pob lwc. Ewch amdani!