Pay Dd6
12.12.12

Cwrs Drama Fran Wen yn Glan-Llyn 10-12 Chwefror

Screen Shot 2012-12-13 at 14.27.45CHWEFROR 10-12FED 2013 (HANNER TYMOR) £119 (Bydd hyn yn cynnwys y gweithgareddau, bwyd a llety am ddwy noson)
Cwrs Cynradd – Bl 4,5,6Cwrs Uwchradd – Bl 7,8,9
Be fyddwch chi’n ei wneud yn ystod y penwythnos?
Prif nod yw creu perfformiadau byr fydd yn seiliedig ar Chwedl Llyn Tegid. Bydd yn cynnwys elfennau o ddrama, dawns a cherddoriaeth.
Mae’r rhaglen wedi ei chreu fel bod y criw ifanc yn cael hwyl wrth ddysgu a meithrin amrywiol sgiliau theatrig. Bydd y broses o ddyfeisio yn cynnwys byrfyfyrio, cymeriadu, creu gemau a chreu byd dychmygol gan ddefnyddio cerddoriaeth a dawns. Bydd hyn yn arwain at fagu hyder y criw wrth iddynt gydweithio i greu cynhyrchiad y gall teulu a ffrindiau fwynhau ei wylio ar ddiwedd y cwrs.
Yn ystod y penwythnos bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yng ngweithgareddau arferol y gwersyll – canwio, cwrs rhaffau, dringo, nofio a Bowlio 10.
Unwaith y byddwch wedi archebu lle fe fyddwch yn derbyn gwybodaeth am ganeuon i ymgyfarwyddo â hwy cyn y cwrs – mae hyn er mwyn cyflymu’r broses o ddysgu yn ystod y tridiau.Bydd y gweithgareddau drama a dawns yn cael eu harwain gan hyfforddwyr proffesiynol o Gwmni’r Frân Wen. Cwmni sydd gyda dros dri deng mlynedd o brofiad mewn creu gweithdai theatr i blant a phobl ifanc.TRAFNIADAETHNid yw hwn yn gwrs ble mae disgwyl i athrawon fynychu, bydd staff cymwys y gwersyll (gyda chymorth ein swogs) yn gofalu amdanoch trwy gydol y cwrs. Fe fydd disgwyl i chi gyrraeddy Gwersyll erbyn 1pm ar y Dydd Sul. Bydd gwahoddiad i rieni neu warchodwyr ddod i weld perfformiad o’r gwaith am 6pm Nos Fawrth.NOS FAWRTHMae croeso i rieni/teuluoedd archebu swper yn y gwersyll wedi’r perfformiad am £5 oedolion/ £3 plant – nodwch nifer ar y ffurflen archebu lle, ond gallwch dalu am eich bwyd ar y noson.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd -i archebu lle - llenwa’r ffurflen archebu a’i hanfon gyda blaendal o £30 i Cwrs Drama, Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd LL23 7ST
DYDDIAD CAUIonawr 28, 2013Sieciau yn daladwy i Urdd Gobaith Cymru os gwelwch yn dda.
Am fwy o wybodaeth ac i lenwi ffurflen i sicrhau lle ar y cwrs - Glan-llyn ENGLISH VERSION - DRAMA COURSE IN GLAN-LLYN
FEBRUARY 10-12TH, 2013 (HALF TERM) £119 (This includes activities, bed and full board for two nights) Cwrs Cynradd – Yrs 4,5,6Cwrs Uwchradd – Yrs 7,8,9What will you do during the weekend?The main aim of the weekend will be to create a performance based on The Legend of Llyn Tegid that will include elements of drama, music and dance.
The programme has been designed so that the participants have a lot of fun experimenting with various theatrical techniques. This creative process will include improvising, creating characters, games, use of music, dance and various performing styles. All the workshops will build the participant’s confidence as they get the chance to create a performance at the end, which family and friends are invited to attend.
There will also be a chance to take part in Glan- llyn’s activities – canoeing, high ropes course, climbing, swimming and 10 pin bowling.Screen Shot 2012-12-12 at 15.05.10Once you have booked a place you will receive a list of songs that you can familiarise yourselves with before the course.The drama and dance elements will be led by members of Cwmni’r Frân Wen. This company has over 30 years experience in leading drama workshops for children and young people.ARRANGEMENTNo teachers will come on the course, instead, our qualified staff (with a little help from the ‘swogs’) will look after you.You will be expected to arrive by 1pm on Sunday February 10th. Families of the participants are invited to a performance of the work ar 6pm Tuesday Friday 12th.TUESDAY NIGHTFamilies can order supper in Glan-llyn after the performance. Price of food will be £5 adult/£3 children – please note how many on the order forms, but you may pay on the night
Spaces are limited so what are you waiting for?!Complete the order form and return it with a deposit of £30 to Cwrs Drama, Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd LL23 7ST.CLOSING DATEJanuary 28, 2013Cheques payable to Urdd Gobaith Cymru please.Fill in this form - Glan-llyn