Pay Dd6
07.02.14

Cwpwrdd Dillad - wythnos olaf ymarfer

IwLeis2Mae hi'n wythnos olaf ymarfer cyn i Cwpwrdd Dillad dechra' ar ei daith.Mae'r cyfarwyddwr Iola Ynyr wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r actorion Leisa Mererid ac Iwan Charles i gwblhau'r sioe.Meddai Iola: "Yr wythnos yma 'da ni wedi bod yn rhedeg drwy'r perfformiad yn ei gyfanrwydd er mwyn gwneud saff fod popeth yn gweithio - amseru, cerddoriaeth, props ac ati. Roedd rhan fwyaf o'r fframwaith wedi dod i le erbyn diwedd wythnos ddiwethaf ond mae Leisa, Iwan a finna yn dal i wneud man newidiadau hyd at heddiw er mwyn ceisio gwella'r sioe.""Er enghraifft, ar gychwyn yr wythnos roeddem yn meddwl bod hi ychydig bach yn rhu dywyll felly mi ddaru ni gyflwyno ychydig bach o gomedi oherwydd rhaid i ni gofio i bwy (plant blwyddyn 1 a 2) 'da ni'n perfformio i."LeisaMae'r stori yn dilyn taith bywyd cwpwl priod o'r enw Frank a Ceinwen.Leisa Mererid sy'n chwarae rhan Ceinwen: "Mae hi'n gymeriad eitha' extrovert sydd wedi cwrdd â Frank ac wedi disgyn mewn cariad. Mae'r sioe yn dilyn taith ei bywydau - o'r funud mae nhw'n cyfarfod, ei carwriaeth, ei priodas reit drwy at eu henaint," meddai Leisa.IwanMae'r cwpwrdd dillad ei hun yn chwarae rhan arwyddocaol yn y ddrama: "Mae'r cwpwrdd yn dod a atgofion gwahanol i'r cymeriadau ar wahanol amseroedd o'i bywydau - rhai hapus ac rhai trist," meddai Iwan sy'n chwarae rhan Frank yn y sioe."Mae Luned Rhys Parri a'r criw celf wedi gwneud gwaith ffantastig ar y set - mae popeth yn edrych mor greadigol ac ysbrydoledig," ychwanegodd Iwan.