Galwad Cwmni Serol
Cwmni Serol yn tyfu
Mae’r grŵp creadigol o oedolion ifanc gydag anghenion ychwanegol yn chwilio am aelodau newydd.
BE ‘DI CWMNI SEROL?
Ers 2023 mae Frân Wen wedi bod yn cynnal prosiect theatr ar gyfer oedolion ifanc gydag anghenion ychwanegol.
PAM YMUNO?
I gael hwyl
Gwneud ffrindiau newydd
Cydweithio gyda oedolion ifanc eraill ac artistiaid proffesiynol
Dysgu a gwella dysgu sgiliau creadigol
Creu a rhannu prosiectau creadigol
PRYD?
Pob Dydd Llun, rhwng 1pm - 3pm (paid â phoeni os nad wyt ti’n gallu dod i bob sesiwn!)
BLE?
Nyth, Ffordd Garth, Bangor, LL57 2RW
DIDDORDEB? BETH I NEUD NESA?
Cysyllta efo Elgan drwy:
☎️ 01248 715 048
📧 elgan@franwen.com
📍 neu tyd i Nyth am sgwrs!
Diolch i Annedd Ni, Llwybrau Llesiant, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU am gefnogi Cwmni Serol.