
Roedd hi'n lygoden fach yn Sbri, chwifiwr megaffon wrth arwain gorymdaith Ar y Stryd, ymgyrchydd crys-t Trumpaidd yn Sbectol Haul ac yn artist llawrydd cyflogedig ar brosiect Gofod llynedd.Mae Nia Hâf wedi bod yn rhan o'n teulu estynedig ers nifer o flynyddoedd - yn aelod o'n prosiectau cyfranogi i bobl ifanc, gwirfoddolwr ac yn artist llawrydd cyflogedig - ond nawr mae'n bleser gennym gyhoeddi ei bod wedi ymuno â'r tîm yn swyddogol.Fel ein Artist Ymgysylltu Pobl Ifanc, bydd Nia yn gweithio ochr yn ochr â Mari i annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn ein prosiectau cyfranogi."Fy rôl i fydd defnyddio'r celfyddydau i estyn allan at fwy o bobl ifanc mewn mwy o ardaloedd. Mae gennym galendr cyffrous iawn o weithgareddau i bobl ifanc felly rwy'n edrych ymlaen cael gweithio ar rhain - a gwneud pethau cŵl!"Felly, mae Frân Wen yn cael ei ail Nia*.Croeso mawr Nia rhif 2.
*Nia rhif 1 yn rhan o'r dodrefn yma ers 2001