Pay Dd6
11.09.18

Cronfa cyffrous creu digwyddiad i bobl ifanc

Mari Morgan Fran Wen 2018Mae cronfa newydd yn gwahodd pobl ifanc i gyflwyno syniadau am ddigwyddiad creadigol newydd.Menter gan Frân Wen i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed yw #2018 lle bydd cyfle i hawlio £2018 i gynnal y digwyddiad.Yn ogystal â'r pot ariannol, bydd Frân Wen yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol i'r ymgeisydd llwyddiannus.Bydd y cynllun yn cefnogi unigolyn neu grŵp sydd yn cyflwyno syniad gwreiddiol am ddigwyddiad creadigol ac yn chwilio am gefnogaeth i helpu gwireddu'r syniad.Dywedodd Elgan Rhys, Artist Cyswllt Frân Wen: "Rydym yn chwilio am syniadau gwreiddiol ac arloesol. Gall fod yn ddigwyddiad ar-lein, yn gig sy'n plethu theatr a cherddoriaeth neu’n arddangosfa ddigidol - mae'r gronfa yn gwbl agored.Bydd rhestr fer yn cael ei ddewis a bydd gofyn i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rownd derbynol gyflwyno pitsh gerbron panel o arbenigwyr yn M-SParc, parc gwyddoniaeth newydd ar Ynys Môn, ar ddydd Sadwrn 6ed o Hydref.Mae'r panel yn cynnwys y perfformwyr Seiriol Davies a Lisa Angharad; cynllunydd a chyfarwyddwr celf Gwyn Eiddior; Ceri Charles o Gyngor Celfyddydau Cymru a Pryderi Ap Rhisart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc.Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Syniadau Mawr Cymru, y cynllun sy'n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau busnes a mentergarwch.Bydd y pitsh llwyddiannus yn derbyn £2018 a chefnogaeth broffesiynol gan arbenigwyr yn y maes i’w cefnogi i ddatblygu a rheoli'r digwyddiad.Dywedodd Mari Morgan, Swyddog Cyfranogi Frân Wen: "Mae gwaith cyfranogi Frân Wen yn barod wedi cefnogi miloedd o bobl ifanc i gymryd rhan yn y celfyddydau a bydd #2018 yn helpu ni adeiladu ar y llwyddiant hwn. Mae #2018 yn cynnig y rhyddid a’r gefnogaeth i bobl ifanc ddatblygu eu syniadau eu hunain gan wneud iddynt ystyried y ffactorau ymarferol a gweinyddol yn ogystal â’r creadigol."Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn #2018 anfon neges e-bost at elgan@franwen.com, gan nodi’n fras beth yw'r syniad, sut y bydd yn ychwanegu gwerth at y celfyddydau a pha gefnogaeth yr hoffech chi gan Frân Wen i wneud hyn digwydd.*DYDDIAD CAU 30 MEDI 2018*