Pay Dd6
15.10.15

Criw ifanc Stiwdio yn derbyn eu tystysgrifau

[caption id="attachment_2093" align="alignnone" width="1024"]Stiwdio Fran Wen Yannick Hammer, Catrin Davies, Nicola Thomas a Emrys Williams.[/caption]

Llongyfarchiadau mawr i griw Stiwdio Frân Wen 2015 sydd wedi derbyn eu cymwysterau gan Agored Cymru.

Dyma Yannick Hammer, Catrin Davies, Nicola Thomas a Emrys Williams yn derbyn eu tystysgrifau.Mae Stiwdio Frân Wen yn fodel arloesol newydd ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc sydd â diddordeb yn y Diwydiant Cyfryngau a Chelfyddydau Digidol Creadigol.Mae’r stiwdio yn gweithredu fel unrhyw stiwdio gyfryngau neu gynllunio graffeg arferol, gyda chleientiaid go iawn, comisiynau go iawn a gwaith caled go iawn. Yr unig wahaniaeth yw bod y tîm yn cynnwys pobl ifanc rhwng 16 – 18 oed nad ydynt fel arall mewn cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg.Am ragor o fanylion ewch i www.stiwdiofranwen.co.uk