
Wrth i daith
Saer y Sêr gyrraedd
Theatr Felinfach mae criw o artistiaid wedi glanio yma ym Mhorthaethwy i ddechrau gweithio ar ein cynhyrchiad nesaf.Sioe i blant oed meithrin yw
Dilyn Fi fydd yn teithio yng Ngwanwyn 2016 - gwyliwch allan am lwyfan llawn hwyl, sbri ac eliffantod!
Yn y llun uchod mae Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, yn croesawu'r awdur
Sarah Argent a'r actorion
Cêt Haf,
Elgan Rhys.Cofiwch ddilyn anturiaethau'r criw dros' yr wythnosau nesaf ar ein sianeli digidol.