Cornel Celf Gwyn
Dros yr wythnosau diwethaf, mae plant ysgolion cynradd yng Ngwynedd, Môn a Chonwy wedi bod yn gyrru gwaith i mewn i’n Cystadleuaeth Gelf Gwyn (cyst. ar thema – Lliw) i gyd-fynd a’n cynhyrchiad diweddaraf ‘GWYN’ gyda Bryn Fôn a Rhodri Sion. Yr artist Elfyn Lewis fydd yn beirniadu’r cynnyrch mewn ychydig wythnosau. Byddwn yn gwobrwyo unigolyn ac ysgol. Mae llawer o waith Celf wedi dod i law – i gyd yn llawn dychymyg. Mae wir wedi bod yn hyfryd derbyn yr holl gynnyrch lliwgar yn y swyddfa. Fe fyddwn ni’n arddangos y gwaith yma ar ein blog yn yr wythnosau nesaf.