Pay Dd6
21.02.20

Comisiwn i ddau artist

Comisiwn Artist Frân WenRydym yn falch iawn i gynnig comisiwn i ddau artist wrth i ni ddatblygu dyluniad uchelgeisiol i'n cartref newydd, Nyth.Wedi prynu hen Eglwys y Santes Fair ym Mangor, rydym ar fin ei thrawsnewid yn gartref newydd i’r cwmni. Bydd yr adeilad yn ymgorffori ethos cwmni Frân Wen ac yn le croesawgar, bywiog a chynhwysol i bobl gydweithio ac ymarfer creadigrwydd.Rydym yn awyddus i weithredu’r un weledigaeth yn ystod datblygiad y prosiect cyfalaf ac felly’n comisiynu dau artist i gydweithio â ni, y gymuned leol, a’n tîm dylunio - Manalo & White, i ddatblygu syniad creadigol newydd ar gyfer yr adeilad. Bydd y broses a’r artistiaid yn cael eu cefnogi gan ymgynghorwyr arbenigol, Dis/Ordinary Architecture.Pecyn Gwybodaeth Comisiwn Artist
🔈 Manylion Comisiwn Disgrifiad Sain 🔈Dyddiadau AllweddolDyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 11 Mawrth 2020 Cyfweliad: 16 Mawrth 2020 Gweithdy cyntaf gyda Dis/Ordinary Architecture: 28 Mawrth (i’w gadarnhau). Dyddiad cau ar gyfer cynnig manwl: 15 Mai (i’w gadarnhau)