Pay Dd6
19.03.18

Clymu cenedlaethau drwy chwarae creadigol

Mae Frân Wen wedi cael y fraint o gynnal cyfres o sesiynau chwarae creadigol rhwng trigolion canolfan gofal dementia a'u hwyrion a’u gor-wyrion.Chwarae Wy Chips Nain Bryn SeiontWedi eu hysbrydoli gan y cynhyrchiad Ŵy, Chips a Nain, roedd y sesiynau ym Mryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon yn cynnwys Mari Emlyn a Osian Gwynedd, artistiaid oedd yn rhan o'r tîm artistig gwreiddiol oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad theatr a deithiodd yn genedlaethol.Cefnogwyd y prosiect gan Academi Gofal Cymdeithasol Pendine, perchnogion y ganolfan dementia yng Nghaernarfon, a rhaglen CultureStep gan Celfyddydau & Busnes Cymru.Yn dilyn rhai o'r themâu yn Ŵy, Chips a Nain, roedd cerddoriaeth a chelf yn chwarae rôl amlwg yn y sesiynau - mae'r ddau yn adnabyddus fel elfennau o'r celfyddydau sy'n cael effaith gadarnhaol ar bobl â dementia.Mae'r gweithgareddau wedi helpu cryfhau'r ddolen sy'n clymu'r ddau grŵp a dathlu'r berthynas arbennig sy'n bodoli hyd yn oed pan fydd dementia yn bresennol."Dwi wrth fy modd fod y prosiect rhwng dwy genhedlaeth sy'n galluogi'r plant gael dealltwriaeth gwell o ddementia," meddai Nia Davies Williams, Cerddor Preswyl Bryn Seiont Newydd."Mor braf oedd gweld y preswylwyr gyda'u wyr a'u wyresau bach! Roedd awyrgylch hamddenol braf i'r sesiynau a 'dementia' yn cael ei anghofio am y tro. Dyma roi cyfle i Nain neu Taid dreulio amser gyda'r plant bach gan rhoi atgofion newydd, melys i bawb."[Best_Wordpress_Gallery id="5" gal_title="Sesiynau Chwarae Bryn Seiont"]