Pay Dd6
13.04.21

Chwilio am gontractwyr adeiladu o Gymru

Rydym yn chwilio am gwmni adeiladu profiadol i gydweithio â nhw i wireddu Nyth - ein prosiect cyfalaf cyffrous a chartref newydd i'r cwmni.Ein bwriad yw trawsnewid hen eglwys wag ym Mangor yn hwb gelfyddydol, diwylliannol a chymunedol i blant a phobl ifanc yr ardal ac yn ganolfan i hybu a chefnogi artistiaid a’r diwydiant gelfyddydol yng Ngogledd Orllewin Cymru.Mae’r prosiect ar Gam 4 RIBA ar hyn o bryd ac rydym yn chwilio am gwmnïau i ymateb i’r holiadur cyn-gymhwyso cychwynnol trwy'r wefan Gwerthwch i Gymru erbyn 4 Mai 2021.Manylion pellach.