Chaperone Baner
30.01.24

Chaperones Deian a Loli

Chwilio am warchodwyr i daith theatr Deian a Loli.

Rydym yn chwilio am ddau warchodwr / chaperone i ofalu am bedwar o blant ar gyfer y cynhyrchiad theatr Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf.

Bydd y cyfnod ymarfer yn digwydd ym Mangor, gyda’r sioe yn mynd ar daith ledled Cymru.

DYDDIADAU

Byddai angen un i fod ar gael rhwng 25 Mawrth - 8 Mehefin (dim angen profiad dysgu), a’r llall rhwng 22 Ebrill - 8 Mehefin (angen profiad o ddysgu mewn ysgol uwchradd).

GOFYNION

Rhaid cael trwydded yrru lân ac yn ddelfrydol, trwydded chaperone.

Os nad oes gennych drwydded eisoes, gallwn drefnu eich bod yn cael eich trwyddedu cyn dechrau’r cyfnod gwaith.

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr yn cyflwyno eich hun at post@franwen.com erbyn 7fed o Chwefror.