Pay Dd6
07.11.13

Carwyn nes at adre

Dim Diolch actor Carwyn Jones

Mae’r actor Carwyn Jones yn dychwelyd yn ôl i Fôn i berfformio Dim Diolch am y tro cyntaf heddiw (dydd Iau, 7 Tachwedd).Yn enedigol o Lanfairpwll, mae Carwyn, 33 oed, wedi byw yn Llundain a Penarth ers dros ddeng mlynedd: “Mae hi wastad yn braf cael dod adre i weithio, cyfle da i ddal fyny efo ffrindiau a theulu.”Mae Carwyn yn chwarae rhan y gwyddonydd Americanaidd hunanddysgedig George Price, y cyntaf i fynegi anhunanoldeb mewn hafaliad mathemategol, yn y ddrama Dim Diolch sy’n cael ei berfformio yn Railway Club, Caergybi heno am 7pm.Dywedodd Carwyn: “Fel y rhan fwyaf o bobl, doeddwn i byth wedi clywed am George Price, ond pan ddarllenais y sgript cefais fy rhyfeddu. Roedd blynyddoedd o flaen ei oes ac yn athrylith go iawn, ond ni chafodd y gydnabyddiaeth yr oedd yn ei haeddu. Cofiwch fod hwn yn ddyn a ddylanwadodd ar y bom atom, therapi ymbelydredd canser a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur!Ychwanegodd: “Wrth i ni archwilio stori’r dyn, ei waith a’r cymhelliad wrth wraidd caredigrwydd, cawn ddarlun eglur o’r bersonoliaeth gymhleth ac amlhaenog hon. Mae portreadu cymeriad fel George yn freuddwyd i mi fel actor.”“Dwi’n cael cyfle arall i ddod yn ôl cyn diwedd y mis wrth fod Dim Diolch yn cael ei perfformia yn Neuadd Eglwys Cyngar Sant Llangefni ar y 25ain o Dachwedd.”I gael tocynnau, ffoniwch 01248 715 048 neu ewch i www.franwen.com.