Canmoliaeth Uchel i Nyth
Nyth yn derbyn gwobr Canmoliaeth Uchel am bensaernïaeth
Mae Nyth wedi derbyn Canmoliaeth Uchel mewn seremoni dathlu pensaernïaeth er lles pawb.
Mae Gwobrau MacEwen RIBA, a lansiwyd yn 2016, yn cydnabod adeiladau sy'n gwella bywydau pobl a'r gymuned
Wedi ei ddylunio gan gwmni pensaernïaeth Manalo & White, dan arweiniad y pensaer Takuya Oura, canmolwyd y gwaith i drawsnewid yr hen eglwys Santes Fair ym Mangor mewn i hwb diwylliannol creadigol newydd.
Tarodd y pensaer gydbwysedd trwy ymateb yn hyderus i’r briff gydag ymyriad sydd ddim yn cystadlu â phensaernïaeth gwreiddiol yr eglwys.Mike Worthington (beirniad)
Mae'n ymddangos eu bod wedi gweithio'n agos gyda'r bobl ifanc ac wedi gwrando arnynt i greu rhywbeth arbennig ar eu cyfer.Kathy MacEwen (beirniad)