Blog: Megan Crew
O brofiad gwaith i aelod bwrdd: taith Megan efo Frân Wen
O ymuno â ni ar brofiad gwaith i ddod yn aelod o'r bwrdd, mae Megan Crew yn rhannu ei thaith ysbrydoledig gyda Frân Wen.
Sut ddechreuodd y cyfan
Dechreuodd fy nhaith efo Frân Wen drwy brofiad gwaith yn ôl yn 2021. Roedd yn gyflwyniad gwych i’r diwydiannau creadigol gan fy mod i wedi cael blas ar gymaint o weithgraeddau gwahanol. Roeddwn i wrth fy modd â popeth: y gwaith, y pobl a’r awyrgylch.
Cwmni Ifanc Frân Wen
Yn y cyfnod yma, sylweddolais fod gwneud cwrs drama yn y brifysgol yn rhywbeth roeddwn wir eisiau gwneud. Felly, penderfynais ymuno â Cwmni Ifanc Frân Wen yn fy mlwyddyn ddiwethaf yn chweched er mwyn cael mwy o brofiad o berfformio tu allan i’r ysgol.
Pan es i’r sesiwn gyntaf, roeddwn eithaf nerfus gan fy mod heb wneud drama tu allan i’r ysgol o’r blaen - a doeddwn ddim yn nabod neb yno. Cyn gynted a gyrhaeddais y sesiwn, diflannodd fy nerfau oherwydd roedd pawb mor gyfeillgar. Un o’r pethau gynta’ sylweddolais pan gyrhaeddais, oedd yr awyrgylch hwylus, egnïol, cyfeillgar ond hefyd yn ddiogel ac yn caniatáu hunanfynegiant yn y ffurf buraf.
Yr hyn sy'n gwneud Cwmni Ifanc mor arbennig yw pa mor arbennig yw'r aelodau ifanc sy'n ei arwain, a’r ffaith bod Frân Wen yn gadael ni wneud hyn. Daeth popeth gennym ni - ein hangerdd, ein pryderon, ein syniadau. Defnyddiodd Nia Hâf a Buddug (ein hwyluswyr gwych) dasgau creadigol a sgyrsiau i lunio'r gwaith a wnaethon ni greu gyda'n gilydd.
Un o'r prosiectau hynny oedd ein sioe diwedd blwyddyn, 15ish. Daeth yr ysbrydoliaeth o'n profiadau ein hunain: meddwl am y dyfodol, delio â phwysau'r ysgol, dewis TGAU neu Lefel A… jest trio gweithio pethe allan fel person ifanc. Roedd bod yn rhan o'r broses honno - o weithdai ac sgwennu sgriptiau i'r perfformiad terfynol - yn cadarnhau i mi mai dyma beth rwy'n ei garu. Drama tdi ‘thing’ fi, a rhoddodd sicrwydd i mi fy mod ar y llwybr cywir wrth fynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerwysg (Exeter).

Llysgennad Croendena a Imrie
Yn 2023, ges i gyfle i fod yn llysgennad ar gynyrchiadau Frân Wen, Croendena ac Imrie; dau gynhyrchiad Cymraeg cyffrous gan Mared Llywelyn (Croendena) a Nia Morais (Imrie). Neidiais ar y cyfle i fod yn llysgennad gan ei fod yn brofiad anhygoel i gael blas ar y broses o greu theatr, a chefnogi ymgyrch Frân Wen o rannu straeon gyda’r byd!
Roedd gofynion y swydd yn cynnwys cefnogi'r ymgyrch marchnata, rhannu manylion ar-lein a chefnogi blaen tŷ yn ystod y daith. Y rhan fwynheais fwyaf am y swydd oedd y rhyddid creadigol a roddwyd i ni ddewis ffordd ein hun o rannu'r wybodaeth. Yn ogystal â dosbarthu posteri yn adran ddrama'r ysgol ac ar fyrddau hysbysebion o amgylch Caernarfon, roeddwn hefyd yn gwybod y byddai cyfryngau cymdeithasol yn ffactor mawr i gyrraedd cynulleidfaoedd.
Gyda Imrie, roeddwn i'n ddigon ffodus i gael y cyfle i weld y set yn cael ei osod am y tro gynta’, a oedd yn wych i'w bostio fel ‘behind the scene content’. Rhannais wybodaeth ar dudalennau cymunedol i gyrraedd cynulleidfa ehangach gan hefyd postio lluniau a stories ar fy mhroffil fy hun. Wrth i mi gyfarch pobl ym mlaen tŷ ar noson agoriadol Croendena, dywedodd rhywun eu bod wedi gweld y cynhyrchiad ar fy nghyfryngau cymdeithasol a dylanwadodd hynny arnynt i fynd i wylio. Roedd yn wych ac mor cŵl i'w glywed!
Roedd hwn yn brofiad mor werthfawr i mi gan ddysgais mwy am y broses o greu a hyrwyddo cynyrchiadau... a ges i gipolwg ar fywyd fel ‘influencer’!

Aelod Bwrdd Rheoli
Gofynnodd Nia (Cyfarwyddwr Gweithredol) i mi os hoffwn ymuno â Bwrdd Rheoli Frân Wen. Pan ddarllenais yr e-bost am y tro cyntaf, roedd rhaid i mi ei ddarllen am yr ail dro, a'r trydydd, a rhedais at Mam a Dad i rannu’r newyddion.
Roeddwn i'n teimlo mor freintiedig eu bod nhw eisiau i mi fod yn aelod o’r bwrdd - am fraint!
Dwi wedi bod ar y bwrdd ers ychydig dros 2 flynedd ac wedi dysgu cymaint. Pan ddechreuais fynychu cyfarfodydd, roedd yn ychydig yn frawychus oherwydd dim ond 18 oeddwn i a doeddwn ddim yn gwybod llawer am y broses o redeg cwmni theatr. Nawr ar ôl mynychu sawl cyfarfod, rydw i'n teimlo bod fy hyder wedi tyfu ac yn sicr mae fy nealltwriaeth wedi ehangu.
Rydw i hyd yn oed wedi gallu mynd â'r hyn rydw i wedi'i ddysgu gan bobl yn y diwydiant i'm modiwlau cynhyrchu yn y brifysgol! Mae mynychu cyfarfodydd bwrdd yn rhywbeth rwy'n edrych ymlaen ato bob amser. Mae mor ddiddorol (a chŵl) clywed am ddigwyddiadau'r cwmni a sut maen nhw'n mynd ati i osod eu hagenda blynyddol a’i chyflawni. Rwy'n teimlo'n ddiolchgar iawn bod Frân Wen wedi ymddiried ynof gyda'r swydd hon.
Beth nesaf?
Nawr fy mod yn astudio i ffwrdd yn y brifysgol a ddim o gwmpas yn ystod y tymor, rwyf bob
amser yn sicrhau fy mod yn cysylltu i weld beth sydd ymlaen i weld le gallaf helpu. Dwi wedi cwblhau dwy flynedd yn y brifysgol ac yn teimlo fy mod i wedi ennill llawer mwy o wybodaeth a phrofiadau defnyddiol. Wrth ddod yn ôl i Nyth rwy'n fwy chwilfrydig ac rwy'n canfod fy hun gyda chwestiynau ac eisiau bod yn rhan o drawstoriad o bethau sydd ganddyn nhw'n mynd ymlaen.
Rydw’i newydd ymuno ar brosiect newydd cwmni ifanc, Carreg Ateb, sy’n ei ddyddiau cynnar felly gwyliwch allan am hwn - fydd o’n sbeshial!
Diolch i Frân Wen am yr holl gyfleoedd hyd yn hyn — ac am gredu ynof o'r cychwyn cyntaf. Fedra i ddim aros i weld beth sydd nesaf.