Pay Dd6
02.11.15

Bardd y plant yn troi ei llaw at theatr

Anni Llyn a Fran WenMae Bardd Plant Cymru yn troi ei llaw at fyd theatr am y tro cyntaf Tachwedd yma.Mae Anni Llŷn, sydd hefyd yn gyflwynwraig deledu ac awdures adnabyddus, yn rhan o dîm o artistiaid proffesiynol sydd wedi dyfeisio sioe newydd i gyffroi dychymyg plant ifanc.Yn Saer y Sêr, sioe diweddaraf Cwmni'r Frân Wen i blant rhwng 3 a 7 oed, bydd Rhodri Sion a Leisa Mererid yn cyflwyno plant i fywyd ar y dyn sydd yn gyfrifol am warchod y sêr.Bydd Anni yn plethu stori at ei gilydd gyda chefnogaeth gan yr actorion Leisa Mererid a Rhodri Sion, y cerddor Osian Gwynedd, y cynllunydd Gwyn Eiddior, cyfarwyddwr Ffion Haf a chynllunydd goleuadau Elanor Higgins.Meddai Anni, "Dwi'n caru mynd i'r theatr ond dwi heb weithio yn broffesiynol yn myd theatr o'r blaen, felly mae'r cynhyrchiad yma wedi bod yn sialens newydd.""Rydym wedi defnyddio proses dyfeisio wrth fynd ati i greu'r sioe a fy swydd i ydi rhoi trefn ar y syniadau a rhoi sgript at ei gilydd. Mae'r hi'n broses newydd i mi ond mae'n wych cael tîm artistig mor brofiadol a chreadigol.Enillodd Anni wobr Prif Lenor yr Urdd yn Eryri 2012 ac mae hi wedi cyhoeddi nofelau antur i blant. Mae hi eisioes yn wyneb cyfarwydd i blant a phobl ifanc Cymru, ar ôl iddi dreulio pum mlynedd fel cyflwynydd rhaglen Stwnsh ar S4C.Rhagor o wybodaeth am Saer y Sêr