Dim Byd
10.01.22

Galwad Dim Byd ‘Tha Chdi Bangor

Tyd â dy sŵn i Fangor.

Da’n ni’n chwilio am bobl ifanc 14-16 oed o Fangor a’r cyffiniau i ymuno â’n colab newydd efo Ieuenctid Gwynedd.

Os ti’n dod o o Maes G neu Penrhos, o Coed Mawr neu Hirael, neu os ti’n byw yn lleol, ‘da ni isho chdi i weithio ochr yn ochr efo artistiaid anhygoel i greu digwyddiad arbennig iawn – a swnllyd– ym Mangor.

Dyma brosiect cyntaf Cwmni Ifanc Frân Wen ar gyfer 2022.

Diddordeb cymryd rhan? Ymuna hefo ni ar 20 Ionawr 2022 i glywed mwy.

Cofrestra yma i gael y linc Zoom.

Cefnogir y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol, Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn