Atgofion o SBRI?
Adolygiad Meinir Williams o'r sioe ieuenctid Sbri! a gynhaliwyd yn Galeri, Caernarfon, nos Wener a nos Sadwrn. Mae'r perfformiad olaf yn Galeri nos Lun, Mehefin 4:
"Cafwyd perfformiadau gwych gan y cast, yn arbennig yn y rhannau â hiwmor yn perthyn iddynt.Roedd hi'n amlwg fod y gynulleidfa'n mwynhau'r perfformiad - cafwyd chwerthin iach, ac roedd rhai yn eu dagrau ambell dro oherwydd gallu rhai unigolion i gyfleu hiwmor. O'm blaen roedd dwy eneth wyth oed yn eistedd ar flaenau eu seddi yn chwerthin o waelod calon ar y rhan lle roedd Mr Cojar yn chwarae'r piano, a'r ddwy yn ei ddynwared yn taflu ei ben i'r awyr a siglo'i ben ôl am weddill y perfformiad.Llongyfarchiadau mawr i'r holl dîm cynhyrchu ar lwyddiant ysgubol, ond yn bennaf oll, diolch mawr i'r bobl ifanc am ddwyawr o bleser pur."[gallery columns="4" ids="44,42,41,40,39,37,35,34,33,32,31,30,29,28,27,20,21,22,23,24,25,26,3"]