Cyhoeddi artistiaid Fy Arddegau Radical
Rydyn ni'n caru artistiaid sy'n herio, tarfu ac ailddiffinio!
Mae’n bleser cyhoeddi artistiaid Fy Arddegau Radical – prosiect sy’n cynnig cyfle i artistiaid gyda thros 20 mlynedd o brofiad sy’n barod i ail-ymgysylltu â'i hunan fel person ifanc radical er mwyn datblygu gwaith newydd dewr ac eofn yma yn Frân Wen.
Mae’r prosiect yma yn ran o’n Rhaglen Datblygu Artistiaid sy’n hwyluso preswyliadau ymchwil a datblygu yma yn Nyth a darparu adnoddau i artistiaid ddatblygu syniadau ar gyfer gwaith gwreiddiol a chyffrous.
Yr artistiaid a'u prosiectau

🌟 Rhiannon Mair: Gwenllian
Bydd yr ymarferydd theatr a pherfformiwr Rhiannon Mair yn datblygu prosiect amlddisgyblaethol a ysbrydolwyd gan y Dywysoges Gwenllian. Yn rhannol daith gerdded, a rhannol protest - mae Rhiannon am ddatblygu taith sy’n mynd â’r gynulleidfa a’r perfformwyr gyda’i gilydd tra’n ymchwilio rhywedd, hunaniaeth, pŵer ac etifeddiaeth.

🌟 Hannah McPake: Bwystfil
Bydd y actor, cyfarwyddwr a dramodydd Hannah McPake yn archwilio sut i yn ail-ddychmygu chwedlau mewn byd goruwchnaturiol yn y dyfodol agos lle mae iaith yn newid, pŵer yn esblygu a lle mae rhywun yn brwydro dros eu hunaniaeth. Ydan ni’n barod i wynebu’r bwystfilod dan ni’n cario?

🌟 Catrin Williams a Pat Morgan: Be' Ddigwyddodd
Bydd yr artist tirluniau Catrin a’r cerddor Pat Morgan o’r band eiconig Datblygu yn mynd yn groes i’r rheolau trwy gyfuno tirluniau amrwd a thirweddau sonig! A oes modd ail-ddychmygu hunaniaeth Gymreig pan fydd celf a sain yn gwrthdaro?
Bydd pob artist yn derbyn £1,500 i ddatblygu eu syniadau gyda Frân Wen a’i gymunedau.
Rydyn ni mor gyffrous i weld beth ddaw o’r syniadau radical hyn - cadwch olwg am ddiweddariadau!