Anweledig yn Steddfod
Dyfnderoedd selar y Neuadd Ddawns yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni yw cartref i’r ail bennod o ddrama afaelgar Aled Jones Williams.Ffion Dafis sy’n perfformio yn Anweledig, gignoeth a dirdynnol sy'n dilyn taith dynes sy'n dioddef o iselder difrifol.Yn yr ystafelloedd tanddaearol yma ar Stryd Biwt ym Mae Caerdydd, daw bodolaeth a chyflwr Glenda yn fyw i’r gynulleidfa.Mae’r fonolog, sy’n cael ei chyfarwyddo gan Sara Lloyd, yn ymateb i brofiadau cleifion hen ysbyty meddwl Dinbych.Derbyniodd Frân Wen gais gan ddoctoriaid seiciatryddol ym Mangor i gael golwg ar rai o gofnodion meddygol yr hen ysbyty meddwl yn Ninbych yng Ngogledd Cymru er mwyn creu gwaith creadigol newydd.Meddyliodd y cwmni yn syth am Aled Jones Williams fel un â’r gallu a’r sensitifrwydd — ac yn wir y profiad — i greu drama bwerus o ffeithiau meddygol moel.Y perfformiadau yn yr Eisteddfod yw'r ail ddehongliad mewn cyfres o berfformiadau dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Penllanw’r broses fydd cynhyrchiad llawn yn teithio 5 o brif theatrau Cymru yng Ngwanwyn 2019."Y nod yw rhoi llais a llwyfan i salwch sydd yn aml yn cael ei guddio a’i gadw o’r golwg," meddai'r cyfarwyddwr Sara Lloyd."Mae'n fraint cael gweithio gyda geiriau Aled Jones Williams unwaith eto yn dilyn y profiad o gyfarwyddo Pridd yn 2013."Mae'r cynhyrchiad yma yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn adeiladu ar seiliau cadarn y fonolog gyntaf a berfformiwyd yn 2013 ac yn dilyn cymeriad Glenda wrth iddi ymgymryd â'r daith flêr o wella."I gyd-fynd â’r cynhyrchiad, mae Osian Gwynedd wedi ei gomisiynu i gyfansoddi cerddoriaeth gefndirol i’r perfformiad gyda’r Cynllunydd Goleuo Ceri James a’r Artist Mirain Fflur yn gyfrifol am sicrhau naws gweledol yn y gofod unigryw.TîM CREADIGOLCast: Ffion Dafis
Awdur: Aled Jones Williams
Cyfarwyddwr: Sara Lloyd
Cerddoriaeth: Osian Gwynedd
Dylunio / Celf: Mirain Fflur
Cynllunydd goleuo a fideo: Ceri James
Gwaith camera gwreiddiol: Eilir Pierce
Technegol: Lewis Williams, Caryl McQuilling a Guto Howells