Young Associates Baner
18.08.25

Aelod Cyswllt Ifanc 25

Am flwyddyn bythgofiadwy ymunwch â'n rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc

Rydyn ni’n chwilio am 6 person ifanc greadigol a chwilfrydig i ymuno â’n rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc am flwyddyn.

Dros y flwyddyn, cei gyfle i:

  • Fynychu Gŵyl Ruhrtriennale yn yr Almaen i weld theatr rhyngwladol cyfoes – yn rhad ac am ddim

  • Ymuno â dosbarthiadau meistr unigryw gydag artistiaid proffesiynol mwyaf ysbrydoledig

  • Cynnig syniadau newydd a rhoi dy farn ar sioeau a prosiectau Frân Wen

  • Cyfarfod, cydweithio a rhannu syniadau efo Aelodau Cyswllt Ifanc eraill

.........................................................................

ruhrtriennale festival

Mae'r rhaglen yn cynnwys trip am ddim i ŵyl Ruhrtriennale yn yr Almaen
.........................................................................

Dyddiadau Allweddol

Dydd Mawrth 16 Medi 2025
Cyfarfod y Criw, Nyth Bangor

Dydd Iau 18 - Dydd Sul 21 Medi 2025
Gŵyl Ruhrtriennale, Bochum, Yr Almaen

27 Hydref 2025
Sesiynau meistr yn cychwyn yn Nyth, Bangor

Manylion

Ffi: Nid oes ffi ynghlwm â’r cyfle hwn ond byddwn yn ad-dalu costau teithio

Lleoliad: Nyth, Bangor

Er mwyn gwneud cais bydd angen i ti sicrhau bod gennyt basbort sy’n gyfredol.

Be nesa?

Os oes unrhyw elfen o hyn o ddiddordeb, hoffem glywed gennyt!

Hoffem glywed amdano ti a pam bod y cyfle hwn yn dy gyffroi di. Gei di wneud hyn ym mha bynnag ffordd sy’n addas i ti - mae’r opsiynau yn cynnwys:

  • anfon llythyr byr

  • CV

  • rhannu dolenni dy waith (os oes gen ti rai)

  • clip clywedol

  • neu fideo byr

Sut i gysylltu

Anfona dy gais ymlaen i post@franwen.com erbyn dydd Sul 31 o Awst.

Byddwn yn cynnal sgyrsiau anffurfiol gyda ymgeiswyr ar dydd Mawrth 2 o Fedi.

Mae croeso i ti gysylltu ag Elgan, Pennaeth Ymgysylltu Frân Wen ar elgan@franwen.com / 01248 715048 os hoffet drafod y cyfle cyn cyflwyno cais neu i dderbyn unrhyw gymorth / adnoddau ychwanegol i dy gynorthwyo yn ystod y broses ymgeisio.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl a dan ni’n croesawu ceisiadau gan siaradwyr newydd, gan gynnig cefnogaeth fel bo’r angen.