Pay Dd6
25.07.18

2018

2018#2018Oes gynnoch chi syniad am ddigwyddiad creadigol ond heb yr amser, y gefnogaeth a’r cyllid i’w wireddu?Dyma gyfle i’r rheiny rhwng 16 – 25 oed i bitsio am gyllideb a chefnogaeth i ddod â’ch syniad yn fyw.Breuddwydiwch, mentrwch ac ewch amdani…Pa fath o ddigwyddiadau?Mae hwn yn hollol fyny i chi, yr artistiaid.Gall fod yn theatr, arddangosfa, eitem ar-lein, unrhywbeth! Gallwch ymgeisio fel unigolyn, fel pâr neu fel grŵp...Beth wedyn?Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i bitsio eu syniad i banel proffesiynol o arbenigwyr ym mis Hydref (dyddiad a lleoliad yw gadarnhau).Bydd y panel yn dethol un syniad i dderbyn £2018 i wireddu a rheoli eu digwyddiad gyda chefnogaeth Frân Wen.Dyddiad Cau CeisiadauMynegwch eich diddordeb i bitsio erbyn 30 Medi 2018 i elgan@franwen.com neu 01248 715 048.
Y PANELSeiriol Davies Perfformiwr, ‘sgwennwr a gwneuthurwr theatr – ‘How To Win Against History’Lisa Angharad Cyflwynydd, perfformiwr a chanwr – ‘Sorela’ & ‘Cabarel’Gwyn Eiddior Dylunydd / cynllunydd theatr, teledu a ffilmCeri Charles Cyngor Celfyddydau CymruPryderi ap Rhisiart Prif Weithredwr M-SParcMari Morgan Mentor Cyfranogi Frân WenElgan Rhys Artist Cyswllt Frân Wen
PROSES PITSIO
  • Gallwch ymgeisio fel unigolyn neu fel grwp o unigolion.
  • Byddwch yn cael eich gwahodd i bitsio eich syniad i banel proffesiynol y.m mis Hydref (dyddiad a lleoliad yw gadarnhau)
  • Clustnodir 20 munud ar gyfer eich pitsh - gall fod ar unrhyw ffurf ond mae’n rhaid creu argraff!
  • Bydd y panel yn dethol un syniad i dderbyn cyllideb o £2018 a chefnogaeth ymarferol gan Frân Wen.
  • Bydd rhaid i’r digwyddiad gymryd lle cyn Mawrth 2019.