Pay Dd6
04.06.19

Creu theatr 2019.

Swn a Symud gan Fran WenRhwng 13 a 21 oed? Diddordeb creu digwyddiad byw ar leoliad?Dewch i gymryd rhan mewn prosiect cyffrous iawn yr Haf yma.Mae Frân Wen, mewn partneriaeth â Amgueddfa Lechi Cymru, yn cynnig cyfle i bobl ifanc gyd-weithio gydag artistiaid proffesiynol er mwyn dysgu sut mae rhoi cynhyrchiad theatrig ar leoliad at ei gilydd. O ddatblygu syniad, sgwennu sgript a cherddoriaeth i ddylunio set, coreograffi a chyfarwyddo.Perfformiad cyhoeddus wedi ei greu gan yr un criw fydd yn cloi'r prosiect – perfformiad yn seiliedig ar faterion mae pobl ifanc yn teimlo’n angerddol drostynt.https://youtu.be/PUKfLayDNeMA chofiwch na nid pawb sydd â diddordeb mewn perfformio! Dyna pam mae Sŵn a Symud hefyd yn berffaith i'r rheiny sydd am ddysgu mwy am gefn llwyfan - o sain a goleuo i ddylunio set - mae yna rôl i bawb.Mae Sŵn a Symud yn rhan o arlwy Cymryd Rhan gan Frân Wen.
BLE?Ar leoliadau yn Llanberis.
AMSERLENDydd Sul, 30 Mehefin 1pm - 4pm Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis Prynhawn yn yr Amgueddfa i ddod i nabod lleoliad y digwyddiadau.Bob nos Fawrth ac Iau yng Ngorffennaf (2, 4, 9, 11, 16, 18, 23, 25 Gorffennaf) 6pm - 9pm Y Ganolfan, LlanberisDydd Sul, 21 Gorffennaf 1pm - 4pm Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis Cyfle arall i ddod i nabod lleoliad y digwyddiadau.Dydd Llun 29 Gorffennaf i ddydd Gwener 2 Awst Trwy’r dydd (union amseroedd i'w gadarnhau) Amgueddfa Lechi Cymru, LlanberisDydd Gwener, 2 Awst Perfformiadau 3yh a 7yhDydd Sul, 4 Awst 11.30am & 3pm Perfformio detholiad o’r perfformiad byw yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Y Lle Hanes, Maes Eisteddfod.
RHAGOR O FANYLIONI ddatgan diddordeb am sut i gofrestru cysylltwch â Mari Morgan.