Pay Dd6
01.03.21

Tri cham yn nes i Nyth

Mae Nyth (ein cartref newydd) wedi sicrhau cyllid o £3.21m i drawsnewid yr hen Eglwys y Santes Fair, sy’n adeilad rhestredig gradd II, yng nghanol ddinas Bangor.Hyd yma mae'r prosiect wedi derbyn £1.8m gan y Loteri Genedlaethol, a weinyddir trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, £1.2m trwy Gyngor Gwynedd gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, £200,000 gan Ymddiriedolaeth Garfield Weston a £10,000 gan The Douglas Pennant Family Foundation.Bydd y ganolfan yn ganolbwynt creadigol lle gall pobl ifanc, y gymuned ac artistiaid ddatblygu syniadau a chreu theatr eithriadol a pherthnasol sy'n cynrychioli Gogledd Orllewin Cymru a’i rannu gyda gweddill y wlad a thu hwnt.Meddai Irfon Jones, cadeirydd annibynnol bwrdd Frân Wen:
"Rydym angen £3.8m i wireddu’r cynllun felly rydyn ni nawr dros 80% tuag at ein targed sy'n wych."“Mae'r gefnogaeth yn golygu y gallwn symud ymlaen yn gyflym gyda'n hamserlen wreiddiol a chychwyn ar y gwaith adeiladu yn 2021."
Mae ymgyrch cyllido torfol hefyd wedi'i lansio i helpu ni i gyrraedd ein targed o £3.8m. Bydd #Nyth30k yn ymgyrch ar-lein sy'n anelu at godi £30,000 trwy roddion unigol dros yr wythnosau cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Gall pobl gyfrannu drwy franwen.com/Nyth30k neu drwy anfon neges destun NYTH30K a'ch swm eich cyfraniad i 70085 (h.y. bydd NYTH30K 5 yn cyfrannu £5).Meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen:
"Mae effaith Covid 19 ar ein pobl ifanc, ein cymunedau a’r sector greadigol yn bellgyrhaeddol. Ein gobaith yw y bydd Nyth yn fwrlwm o weithgaredd ac yn chwarae rhan allweddol yn adfer hyder y cymunedau yma wrth edrych ymlaen at ddyfodol newydd a gwell. Dyma gyfle gwych i ni ehangu ein rhaglen, a chodi proffil y celfyddydau fel cyfrwng i ysbrydoli a gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion.”“Hoffem ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Garfield Weston a'r Douglas Pennant Family Foundation am eu cefnogaeth hyder a brwdfydedd yn y cynllun.”
Daw’r cyhoeddiad ariannol wrth i’r prosiect dderbyn caniatâd cynllunio terfynol a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer trawsnewid yr hen eglwys.Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu mynedfa newydd fydd yn golygu bod Nyth yn hygyrch i bawb. Bydd hefyd yn cynnwys gofod anffurfiol i berfformio ac ymarfer, stiwdio tanddaearol, gofodau creadigol ar gyfer preswyliadau artistiaid a gofodau allanol aml-ddefnydd.Dywedodd Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae Frân Wen yn gwmni deinamig sydd wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau a chreadigrwydd pobl ifanc. Bydd eu cartref newydd yn hanfodol wrth yrru eu gwaith ymlaen a chreu posibiliadau newydd a chyffrous. Bydd hon hefyd yn enghraifft wych o'r rôl y gall y celfyddydau ei chwarae mewn adfywio cymunedol, trwy drawsnewid adeilad sydd wedi gweld dyddiau gwell, a'i droi'n ganolbwynt bywiog, creadigol a fydd yn cynnig cyfleoedd i'r gymuned leol.”
Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Bydd adfywio hen eglwys ym Mangor nid yn unig yn cyfrannu at drawsnewid canol y ddinas ond hefyd yn darparu man lle gall pobl ifanc ddod at ei gilydd. Dyma enghraifft wych o sut y gellir defnyddio cefnogaeth trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i anadlu bywyd newydd i hen adeilad a chreu canolbwynt creadigol a fydd yn gaffaeliad i'r gymuned leol.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a’r Gymuned:
“Mae Cyngor Gwynedd yn gefnogol iawn i brosiect Nyth. Mae'n brosiect strategol pwysig i Fangor a fydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at adfywio canol y ddinas. ”
Bydd y cam tendro ar gyfer y gwaith adeiladu yn cychwyn fis Ebrill, a disgwylir i'r gwaith adeiladu ar y safle gychwyn yng nghanol 2021.Diweddariadau prosiect Nyth