Pay Dd6
21.09.18

Syniadau Mawr Cymru a Frân Wen yn partneru ar gyfer #2018

Stephen Edwards CreadRydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cydweithio gyda Syniadau Mawr Cymru ar gyfer cronfa #2018.Mae Syniadau Mawr Cymru yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru ac yn annog entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Caiff rhaglen Syniadau Mawr Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.Mae #2018 yn gwahodd pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i gyflwyno syniadau am ddigwyddiad creadigol i banel o arbenigwyr er mwyn hawlio £2018 a chefnogaeth broffesiynol.Bydd Stephen Edwards (yn y llun uchod), perchennog y cwmni brandio, dylunio a chynhyrchu Cread, yn ymuno â'r panel fel model rôl Syniadau Mawr Cymru.Mae'r panel yn cynnwys y perfformwyr Seiriol Davies a Lisa Angharad; cynllunydd a chyfarwyddwr celf Gwyn Eiddior; Ceri Charles o Gyngor Celfyddydau Cymru a Pryderi Ap Rhisart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc.Oes gynnoch chi syniad?Anfonwch neges e-bost at elgan@franwen.com, gan nodi’n fras beth yw'r syniad, sut y bydd yn ychwanegu gwerth at y celfyddydau a pha gefnogaeth yr hoffech chi gan Frân Wen i wneud hyn digwydd.Dyddiad ceisiadau: 30 Medi 2018 Digwyddiad pitshio: 6 Hydref 2018