Pay Dd6
18.09.20

Swydd Newydd: Cyfarwyddwr Cwmni Ifanc

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cwmni Ifanc egnïol a brwdfrydig sydd yn angerddol am theatr i bobl ifanc a’r celfydyddau.

Ydych chi’n artist iaith Gymraeg gyda’r sgiliau i fod yn arweinydd creadigol y dyfodol?OES GENNYCH CHI...• Ddychymyg, uchelgais ac angerdd i gefnogi ein hamcanion artistig. • Profiad o gyfarwyddo neu oruchwylio prosiectau cyfranogi. • Sgiliau cyfathrebu clir ac argyhoeddedig ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn y Gymraeg a’r Saesneg. • Y gallu i adnabod a meithrin lleisiau newydd, talent a dychymyg. • Profiad a dealltwriaeth o waith ymgysylltu, cyfranogi a chymunedol. • Sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i rymuso, ysbrydoli a chymell eraill. • Sgiliau eirioli ardderchog. • Y gallu i gydweithio ag eraill, i ddatblygu, cynnal a chryfhau partneriaethau creadigol. • Hyder i gymryd risgCWMNI IFANC FRÂN WENMae Cwmni Ifanc Frân Wen yn gwmni o bobl ifanc amrywiol sydd yn cyfarfod i ddatblygu fel cymuned ac unigolion drwy greu theatr. Gyda phwyslais ar gyflwyno prosesau creadigol arloesol a chreu cynyrchiadau theatr cymunedol mentrus, mae gan y cwmni reolaeth lwyr dros eu gwaith sydd yn archwilio profiadau a safbwyntiau pobl ifanc yng Nghymru heddiw.Mae'r cwmni ifanc wrth galon uchelgais y cwmni ac yn bwydo pob agwedd o waith Frân Wen.MANYLIONTâl: £20,446 - £24,879 Dyddiad cau: 12pm, 05 Hydref 2020 Cyfweliadau: 08 Hydref 2020PECYN SWYDD FFURFLEN CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH