Pay Dd6
05.08.20

Sgwennwyr ifanc i Popeth ar y Ddaear

Cyfle i dri awdur ifanc ymuno â thîm creadigol Popeth Ar Y Ddaear, cynhyrchiad newydd a gaiff ei berfformio ym Maes B a chlybiau nos dros Gymru yn 2021-22.

Galwad Agored am Awduron 18-30 oed Dyddiad Cau: 28 Awst 2020Cyfle i ennill gwobr o £750 yr un i ysgrifennu deunydd Derbyn hyfforddiant gan Vanessa Kisuule, ymarferydd perfformio barddoniaeth (spoken word) proffesiynol Penwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd rhwng 18 - 20 Medi eleni
Rydym yn chwilio am awduron sy’n awyddus i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol i hoelio sylw cynulleidfa ifanc drwy gyflwyno llenyddiaeth mewn modd gyffrous a chyfoes.Bydd y gallu i ddatblygu gwaith ysgrifennu creadigol a sgriptio safonol yn bwysig – ond rydym yn bennaf yn edrych am unigolion sydd â diddordeb a hyder mewn creu barddoniaeth ac efallai rap.Rydym yn benodol yn chwilio am leisiau ffresh, lleisiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yng Nghymru – boed o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig, yn byw ag anableddau neu salwch hir-dymor, neu o gefndir incwm isel. Bydd y prosiect hwn yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ond croesawn ddysgwyr a siaradwyr ail-iaith.
Sut i ymgeisio?Dyddiad cau ymgeisio yw 28 Awst 2020.I wneud cais, gofynnwn i chi anfon ebost gyda'r manylion yma:Enw: Cyfeiriad post: Dyddiad Geni: Cyfeiriad ebost: Rhif ffôn:1. Oes gennych chi unrhyw brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol / cyhoeddi / perfformio barddoniaeth? (dim mwy na 300 gair)2. Pam eich bod yn awyddus i ymgeisio am y cyfle hwn? (dim mwy na 300 gair)3. Sampl o waith ysgrifennu creadigol (heb fod dros 2,000 o eiriau) neu fideo fer ohonoch yn perfformio un o’ch cerddi gwreiddiol at post@franwen.com ar ôl gyrru’r ffurflen gais hon.Gallwch ddefnyddio gwasanaeth fel WeTransfer i drosglwyddo ffeiliau mawr.Unrhyw gwestiynau am y cais? Dyma'r canllawiau a manylion pellach.Unrhyw broblemau cysylltwch â post@franwen.com
Popeth ar y DdaearBydd y cynhyrchiad yn dilyn stori cymuned sydd yn cael ei gorfodi i symud o ganlyniad i ddigwyddiad trychinebus. I ble maen nhw’n mynd? Pwy sydd am fynd? Wrth edrych o gwmpas, nid pawb sydd am oroesi.Beth fydd y cynnyrch gorffenedig?Elfennau o gerddoriaeth boblogaidd dan ofal y cynhyrchydd cerdd Osian Williams gan roi band llawn ar y llwyfan yn ystod perfformiadau Tîm o actorion ifainc Sgript fydd yn cael ei hadrodd ar ffurf barddoniaeth, rap neu wedi ei ysgrifennu gan y bardd Marged Tudur ynghyd â’r tri awdur dethol newydd spoken word Cyfarwyddo gan Nico Dafydd, cyd-gyfarwyddwr y sioe ddigidol 120960 fydd yn dod a’r cyfan at ei gilydd ochr yn ochr â thîm profiadol Frân Wen Digwyddiad rhannu gwaith-mewn-datblygiad fel rhan o gynllun Sgratch Frân Wen ym mis Rhagfyr 2020 Cynhyrchiad fydd yn cael ei deithio o amgylch Cymru – gyda fersiynau ohono’n cael ei berfformio mewn clybiau nos neu lleoliadau cymdeithasol, a’r cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd yn cael ei berfformio i gynulleidfa o gannoedd ym Maes B Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2022